Gobaith dyrchafiad yn parhau i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
BrathwaiteFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae siawns Morgannwg o ddyrchafiad yn parhau ar ôl cymryd dwy wiced gynnar yn ail fatiad Sir Gaerlŷr yng Ngerddi Soffia.

Lukas Carey gymrodd y ddwy wiced wrth i'r ymwelwyr geisio cyrraedd 424 i ennill y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Yn gynharach sgoriodd Kraigg Brathwaite 103 wrth i Forgannwg gyrraedd 251-5 yn eu hail fatiad.

Bydd Sir Gaerlŷr angen 392 o rediadau ar ddiwrnod olaf y chwarae os am gipio buddugoliaeth.