Rhybudd am law trwm dros Gymru gyfan ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm dros Gymru ddydd Sul.
Fe allai'r cawodydd trwm achosi llifogydd gyda disgwyl rhwng 30 - 40cm o law i ddisgyn dros gyfnod o chwe awr.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 00:15 - 20:00 nos Sul.
Bydd Cymru gyfan yn cael ei effeithio gan gynnwys gorllewin Lloegr.