Cerbydau'n cael eu difrodi mewn tân ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y tân ar Ffordd y Traeth ym Mangor nos Sadwrn
Fe gafodd cerbyd gwyliau a phedwar car eu difrodi mewn tân ym Mangor nos Sadwrn.
Ni chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad ar Ffordd y Traeth yn y ddinas.

Fe dreuliodd ymladdwyr ddwy awr yn delio â'r tân ar Ffordd y Traeth
Does dim gwybodaeth ynglŷn â sut ddechreuodd y tân, ond does dim rheswm i gredu bod amgylchiadau amheus yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Fe gymerodd hi ddwy awr i ddiffoddwyr tân ddiffodd y fflamau ar ôl iddyn nhw gael eu galw allan am 22:30.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.