'Dim yn ymddiried' mewn cynllun i adfywio'r Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i adfywio canol tre'r Rhyl dros y 15 mlynedd nesaf wedi cael croeso gan drigolion lleol, er nad yw llawer ohonyn nhw'n credu y bydd yn digwydd.
Yn gynharach eleni fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych gynnal ymgynghoriad cyhoeddus am y cynlluniau, sydd â'r nod o ddod â bywyd newydd i'r Stryd Fawr ar ardal gerllaw drwy wella'r amgylchedd, creu mwy o gartrefi yng nghanol y dref, denu mwy o siopau a sefydlu marchnad.
Fe wnaeth ychydig dros 60% o'r rhai ymatebodd i'r ymgynghoriad gytuno gyda'r cynlluniau, gan ddweud eu bod am weld newidiadau positif i'r dref.
Roedd 75% o blaid y syniad penodol ar gyfer safle Marchnad y Frenhines.
Y prif wrthwynebiad oedd y syniad o greu canol tref "24/7" gydag adloniant i ddenu pobl ifanc, a hynny oherwydd pryder y byddai'n arwain am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
'Diffyg ymddiriedaeth'
Ond mewn adroddiad i gabinet y cyngor, sy'n cwrdd ddydd Mawrth, mae ymgynghorwyr yn dweud fod pobl leol yn dal i deimlo nad yw'r weledigaeth "yn gwneud digon i bobl leol" ac na fydd dymuniadau ac anghenion pobl leol yn cael blaenoriaeth.
Dywedodd yr adroddiad: "Mae yna ddiffyg ymddiriedaeth o'r gymuned, busnesau ac eraill y bydd y weledigaeth yn cael ei gwireddu.
"Fe fydd yn bwysig dangos unrhyw enillion cyflym sy'n cael eu gwneud ar y daith hirach tuag at y weledigaeth."
Y cam nesaf, meddai'r adroddiad, yw "creu cynlluniau mwy manwl gyda phrosiectau a pholisïau sy'n dangos ein dyheadau am rannau penodol o ganol y dref, ac yna mynd ymlaen i'w gwireddu".
Wrth ymateb yn yr adroddiad, dywedodd swyddogion cyllid yr awdurdod: "Nid yw'r adroddiad yn clymu'r cyngor i unrhyw rwymiadau cyllido ychwanegol.
"Ond mae'n amlwg y bydd angen cyllid ychwanegol os yw'r targedau uchelgeisiol yn y cynllun yma yn mynd i gael ei gwireddu."
Fe ddywedon nhw y bydd angen asesu pob un o'r prosiectau o fewn y cynlluniau yn unigol gyda chynllun busnes cadarn ar gyfer pob un.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018