Diffyg rhaglen newyddion S4C yn 'annerbyniol' i'r Llywydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Cynulliad wedi beirniadu absenoldeb prif raglen newyddion arferol S4C nos Fawrth, wrth i'r sianel ddarlledu rownd derfynol y gystadleuaeth i ddewis cynrychiolydd Cymru yn Junior Eurovision.
Mewn neges ar Twitter, fe fynegodd Elin Jones anfodlonrwydd gyda'r penderfyniad yn sgil dyfarniad ysgytwol y Goruchaf Lys ddydd Mawrth bod Boris Johnson wedi torri'r gyfraith trwy atal y Senedd.
Ysgrifennodd Ms Jones: "Heno o bob noson! Dyw hyn DDIM yn dderbyniol."
Mewn ymateb i sawl cwyn tebyg ar-lein, dywedodd S4C eu bod wedi trefnu bwletin estynedig am 18:00 i adlewyrchu digwyddiadau'r diwrnod a bod yna drafodaeth hefyd ar raglen Y Byd Yn Ei Le yn ddiweddarach.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd darllediad byw Chwilio am Seren o Venue Cymru, Llandudno eisoes wedi ei drefnu, medd y sianel.
Ond mewn ymateb i'r eglurhad, dywedodd Ms Jones: "Newydd weld yr esboniad yma, a dyw hyn chwaith DDIM digon da.
"Nid yw'n dderbyniol i beidio darlledu Newyddion ar unrhyw noson. A chi wedi cael eich dal allan ar hynny ar ddiwrnod mor eithriadol â heddiw. Embaras i chi @s4c."
Ddydd Mercher, ychwanegodd Bethan Sayed AC y byddai'n ysgrifennu at S4C fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu gan "nad yw'n dderbyniol".
Dywedodd y colofnydd Cris Dafis: "Gymaint ag ydw i'n mwynhau Chwilio am Seren, dyw hynny ddim yn rheswm i ganslo prif raglen newyddion y gynulleidfa Gymraeg (ar unhryw adeg, heb sôn am ddiwrnod o arwyddocâd hanesyddol).
"Mae wedi bod yn wybyddus ers dydd Llun o leia' y byddai cyhoeddiad yr Uchel Lys yn dod am 10:30 ddydd Mawrth. Penderfyniad golygyddol ofnadwy gan rywun - @BBCCymruWales neu @S4C."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ysgrifennodd Elin Young bod peidio darlledu rhaglen newyddion yn syth wedi Chwilio am Seren "yn benderfyniad hollol drychinebus" ac mae "rhaglen am David Cameron" oedd Y Byd Yn Ei Le "nid trafodaeth ar yr hyn sydd wedi digwydd heddi yw cynnwys y rhaglen hon".
Ychwanegodd: "Ma'r hyn sydd wedi digwydd heddi yn hanesyddol ac yn bwysig. Gellir dwi'n perffeth sicr fod wedi ail amserlenni.
Awgrymodd Ceris Gruffudd: "Gallech fod wedi darlledu @Newyddion9 am 9:30 Siomedig @S4C. Ddim digon da."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae S4C yn parchu ein gwasanaeth newyddion yn fawr ac mae'n rhan allweddol o ddarpariaeth y sianel.
"Yn ogystal, mae digwyddiadau byw hefyd yn holl-bwysig i'n gwylwyr ac yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach.
"Bu trefniadau mewn lle ers misoedd lawer ar gyfer ffeinal byw Chwilio am Seren: Junior Eurovision a byddai wedi bod yn amhosib ail amserlennu'r rhaglen hon ar y funud olaf.
"Yn sgil newyddion y dydd fe ymestynwyd bwletin newyddion 6 o'r gloch i slot chwarter awr o hyd ac fe addaswyd rhaglen Y Byd yn ei Le i gynnwys cyfweliadau amserol oedd yn ymateb i'r newyddion.
"Bydd symud ein prif raglen newyddion i 7:30 y nos yn ein galluogi i sichrau gwell cysondeb i'r gwasanaeth holl-bwysig hwn gan hefyd barhau i gynnal digwyddiadau byw o fewn ein prif amserlen."
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru mai "mater i S4C ydy unrhyw benderfyniadau ynglŷn ag amserlennu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2019
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019