Penderfyniad Johnson i atal y Senedd yn anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr ymateb o Gymru i ddyfarniad y Goruchaf Lys

Mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu fod penderfyniad Llywodraeth y DU i gau'r Senedd yn anghyfreithlon.

Roedd yr 11 barnwr yn unfrydol nad ydy'r gwaharddiad yn ddilys.

Dywedodd y Farwnes Hale, llywydd y llys, fod y penderfyniad y llywodraeth wedi atal y Senedd rhag gwneud ei dyletswyddau yn iawn.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts ymysg y rhai sydd wedi galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo.

Mae Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow, wedi cyhoeddi y bydd y Senedd yn ail-ymgynnull ddydd Mercher am 11:30.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Y Farwnes Hale: Roedd y penderfyniad yn 'rhwystro'r Senedd rhag gwneud ei dyletswyddau'

Yn y cyfamser mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud ei fod yn anghytuno'n gryf â phenderfyniad y Goruchaf Lys, ond y bydd yn parchu'r penderfyniad.

"Y prif beth yw ein bod yn symud ymlaen ac yn delifro Brexit erbyn 31 Hydref... ond fe fydd y Senedd yn ail-ymgynnull a byddwn yn parchu hynny," meddai.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad Mr Johnson i gau'r Senedd, gan gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Dadansoddiad James Williams, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

Mae'r Goruchaf Lys newydd ollwng bom gwleidyddol a allai chwythu fyny arweinyddiaeth Boris Johnson.

Mae ei wrthwynebwyr gwleidyddol wedi bod yn taflu grenadau eu hunain wrth alw iddo ymddiswyddo.

Ond ymateb aelodau ei gabinet ei hun a'i gyd-Aelodau Seneddol Ceidwadol sy'n debygol o benderfynu a all y prif weinidog barhau yn Downing Street.

Mae'r swyddogion yn Rhif 10 yn dweud bod nhw'n "prosesu'r dyfarniad".

Er hynny, os bydd ei ochr ei hun yn troi arno ar ôl y dyfarniad rhyfeddol yma, yna mae'n ddigon posib mai camu lawr fel prif weinidog fydd cam nesaf Mr Johnson.

Galw am ymddiswyddiad

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, fod y penderfyniad ddydd Mawrth yn fuddugoliaeth i reolaeth y gyfraith.

"Fe wnaeth y prif weinidog geisio camddefnyddio'r cyfansoddiad.

"Ni chafodd y Senedd ei hatal [yn gyfreithlon] ac felly mae angen iddi ddal y llywodraeth yma i gyfrif.

"Byddai unrhyw brif weinidog cyffredin - fel mater o urddas - wedi ymddiswyddo ar ôl penderfyniad unfrydol o'r fath gan lys uchaf y wlad."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Drakeford y byddai prif weinidog gyda unrhyw urddas yn ymddiswyddo

Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd seneddol Plaid Cymru, y dylai Mr Johnson ymddiswyddo.

"Mae'r prif weinidog wedi dangos nad yw ddim mwy na rheolwr unbenaethol, yn ceisio atal democratiaeth er mwyn osgoi unrhyw graffu.

"Does yna ddim cwestiwn y dylai'r prif weinidog ymddiswyddo ar unwaith."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Liz Saville-Roberts o Blaid Cymru, Ian Blackford o'r SNP a Caroline Lucas o'r Blaid Werdd y tu allan i'r Goruchaf Lys

Dywedodd Jane Dodds, AS y Democratiaid Rhyddfrydol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed y dylai Mr Johnson ymddiswyddo.

Wrth gael ei holi ar raglen Taro'r Post, Radio Cymru, ynglŷn â chynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd y bydd yn rhaid i'r gwahanol bleidiau gwrdd gan sicrhau "y bydd y pleidiau yn cydweithio ar gynllun er mwyn rhwystro Brexit heb gytundeb".

Eraill am weld etholiad

Ond mae AS Ceidwadol Mynwy, David Davies, wedi amddiffyn arweinydd y Ceidwadwyr gan ddweud ei fod yn sefyll y tu cefn i Mr Johnson "sy'n gwneud popeth posib i ddelifro ar ganlyniad clir y refferendwm a hynny yn wyneb her sefydliad grymus sydd am aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd".

Dywedodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies ei fod yn parhau i gefnogi Mr Johnson, a'r angen am etholiad cyffredinol.

"Mae'r llysoedd wedi cael dweud eu dweud, mae'r Senedd wedi cael dweud ei dweud, nawr mae'r amser i'r bobl gael dweud eu dweud."