Pryder am ddiffyg profion gyrru trwy gyfrwng y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Dysgwr

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ysgrifennu at yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau i fynegi ei bryder am ddiffyg profion gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg.

Daw wedi i deulu o Sir Conwy fynegi eu siom ar ôl i brawf gyrru oedd wedi ei archebu trwy gyfrwng y Gymraeg gael ei ganslo ddwywaith.

Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) maen nhw wedi gorfod canslo nifer o brofion yn yr ardal oherwydd amgylchiadau annisgwyl.

Maen nhw hefyd yn ceisio recriwtio mwy o arholwyr Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Roberts ei fod wedi gofyn am ymateb gan y DVSA

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: "Mae wedi dod i'n sylw bod nifer o bobl wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn methu â sefyll profion gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd.

"Yn sgil hyn rydym wedi ysgrifennu at yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau yn gofyn iddynt ymateb i'r sefyllfa.

"Wedi i ni dderbyn eu hymateb, byddwn yn ystyried y mater ymhellach."

'Rhwystredig'

Mae teulu Elenid Alun, 18 oed o Ysbyty Ifan, Sir Conwy, yn siomedig am ei bod hi'n gorfod disgwyl chwe mis am ei phrawf gyrru.

Roedd y prawf i fod i gael ei gynnal yn Y Bala fis Mehefin, ond cafodd ei ohirio tan fis Rhagfyr.

Yn ôl Elin Angharad Davies, mam Elenid, mae'r sefyllfa'n rhwystredig.

"Roedd hi i fod i gael ei phrawf drwy'r Gymraeg fis Mehefin ond mi gafodd ei ganslo - yn gyntaf tan fis Medi, ac mae'r prawf bellach oedd i fod yr wythnos yma, wedi ei ohirio tan fis Rhagfyr," meddai.

"Mi gafodd wybod ei fod wedi ei ganslo'r noson gynt. A'i chefnder hefyd, wedi cael yr un neges yr wythnos yma."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Elin Angharad Davies mae'r sefyllfa'n rhwystredig

Dywedodd Rhydian Hughes, sy'n hyfforddwr gyrru o Bentrefoelas, ei fod wedi gweld cynnydd yn ddiweddar yn nifer y profion cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu canslo yn Y Bala.

'Recriwtio arholwyr Cymraeg'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y DVSA: "Oherwydd amgylchiadau annisgwyl rydym wedi gorfod canslo profion yn y Gymraeg a'r Saesneg yn Y Bala.

"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra."

Ychwanegodd: "Mae'r DVSA yn ceisio recriwtio arholwyr Cymraeg ychwanegol, a rhoi gwersi Cymraeg i rai o'u staff.

"Mae profion yn y Gymraeg ar gael ym mhob canolfan prawf ymarferol yng Nghymru."

Mae rhai canolfannau yn Lloegr yn cynnig profion yn y Gymraeg hefyd, mewn ardaloedd sy'n ffinio â Chymru.