Rhybudd melyn am dywydd garw i Gymru dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
rhybudd melynFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhoi rhybudd melyn am law trwm mewn grym ledled Cymru dros y penwythnos.

Bydd y tywydd yn taro Cymru nos Sadwrn o tua 18:00 ac fe fydd y rhybudd mewn grym tan 17:00 ddydd Sul, gyda llifogydd yn debygol mewn llefydd.

Mae perygl o hyd at 40mm o law mewn mannau pan fydd y glaw ar ei waethaf.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod posibilrwydd o oedi i siwrnai bysiau a threnau, a thoriad i gyflenwadau pŵer.

Nos Wener cafodd yr A487 dros Pont Ddyfi ei chau i'r ddau gyfeiriad ac hefyd yr oedd llifogydd ger gorsaf drên Machynlleth.

Yn ogystal does yna ddim gwasanaeth trên rhwng Amwythig a Machynlleth oherwydd llifogydd.