Rhybuddion llifogydd mewn grym yn dilyn glaw trwm
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhybudd melyn o law trwm mewn grym nes 20.00 nos Fawrth
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai nifer o gymunedau yng Nghymru gael eu hynysu wrth i ffyrdd gael eu cau o ganlyniad i law trwm a llifogydd.
Daeth rhybudd melyn i gymryd gofal werth deithio i rym fore Mawrth am 06:00 a bydd yn parhau tan 20:00.
Roedd naw rhybudd llifogydd mewn grym, dolen allanol fore Mawrth a nifer o rybuddion i fod yn barod.
Ymhlith y rhain oedd Dyffryn Dyfrdwy o Langollen i Drefalun a'r Afon Tywi wrth gei Caerfyrddin.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ogystal â rhybuddion am lifogydd posib, roedd yna hefyd rybudd am drafferthion ar y ffyrdd.
Fore Mawrth roedd yna oedi ar ffordd yr A484 ym Mhont Cwmduad yn Sir Gaerfyrddin wedi i goeden syrthio.
Mae manylion llawn y rhybuddion yma ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019