Peiriant arian parod yn lle banc i dref Tywyn, Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Barclays TywynFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd banc olaf Tywyn ym mis Mehefin eleni

Bydd Tywyn, Gwynedd, yn un o'r ardaloedd cyntaf i fanteisio ar gynllun peilot i gynorthwyo cwsmeriaid sy'n cael trafferth mynd at eu harian.

Ddydd Mercher, bydd peiriant twll-yn-y-wal yn cael ei agor yn y dref gan gwmni LINK - sy'n cysylltu bron pob un o beiriannau arian parod y DU.

Mae'r cyfan yn rhan o gynllun sefydliad UK Finance - casgliad o bron 300 o sefydliadau bancio y DU - sy'n ceisio sicrhau mynediad cymunedau at arian parod.

Fe gaeodd banc ola'r dref - Barclays - ym mis Mehefin eleni, oedd yn golygu bod rhaid i drigolion deithio i Ddolgellau er mwyn tynnu arian parod allan o'u cyfrifon heb dalu ffi.

Pump o drefi drwy'r DU fydd yn agor peiriannau twll-yn-y-wal ddydd Mercher, ond gall cymunedau eraill wneud cais naill ai drwy eu Haelodau Seneddol, cyngor lleol neu gan LINK yn uniongyrchol.

Os yw'r gymuned yn cyrraedd y meini prawf - sy'n cynnwys y pellter at y peiriant arian agosaf, Swyddfa'r Post agosaf a lleoliad hwylus a phriodol - bydd LINK yn talu am y peiriant.

Dywedodd prif weithredwr LINK, John Howells: "Mae hwn yn ddatblygiad pwysig fydd yn caniatáu i gymunedau gysylltu yn uniongyrchol gyda LINK er mwyn helpu cwsmeriaid.

"Rydym yn edrych ymlaen at gael y ceisiadau cyntaf am beiriannau arian fel y gallwn ddatrys trafferthion ar draws y DU."