Banc Barclays yn cau dwy gangen yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd
Mae banc Barclays wedi cadarnhau y byddan nhw'n cau dwy gangen yng nghanolbarth Cymru yn y misoedd nesaf.
Mae disgwyl i ganghennau Tywyn ac Aberaeron gau erbyn diwedd mis Mehefin.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ganghennau Barclays i gau - fe gaeodd canghennau Dinbych a Rhuthun a dwy yng ngogledd Sir Benfro y llynedd.
Dywedodd cyfarwyddwr bancio cymunedol Barclays yn yr ardal, Adrian Davies y gall eu cwsmeriaid ddefnyddio canghennau Dolgellau, Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan, yn ogystal â'r Swyddfa Bost i fancio.
"Mae'r ffordd mae cwsmeriaid yn bancio yn newid wrth i bobl wneud defnydd cynyddol o'n gwasanaethau ar y we, ffôn ac ar ffonau symudol," meddai.
"Mae defnydd ein cwsmeriaid o ganghennau Tywyn ac Aberaeron wedi parhau i ostwng, a dyma pam ry'n ni wedi cymryd y penderfyniad anodd i'w cau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2018