Siom dros benderfyniad i gau banc olaf Llanymddyfri

  • Cyhoeddwyd
Banc Barclays, LlanymddyfriFfynhonnell y llun, Google

Mae cyngorwyr yn Sir Gaerfyrddin yn galw am "weithredu ar frys" i achub y banc olaf yn Llanymddyfri.

Mae cwsmeriaid Banc Barclays wedi cael llythyr yn dweud bod hi'n fwriad i gau'r gangen yn y dref ar 7 Mehefin.

Mewn datganiad ar ran aelodau grŵp Llafur Cyngor Sir Gâr, dywedodd y Cynghorydd Rob James eu bod yn "siomedig ofnadwy" ac yn "poeni'n arw iawn am yr effaith ar yr ardal".

Daeth y penderfyniad i'r amlwg oriau wedi cadarnhad bod disgwyl i ganghennau Tywyn ac Aberaeron gau hefyd erbyn diwedd Mehefin.

Mae llythyr y banc i'r cwsmeriaid yn pwysleisio bod penderfyniad i gau cangen "byth yn un hawdd", ac yn eu hannog i ddefnyddio canghennau Llandeilo, Llanbedr Pont Steffan ac Aberhonddu.

"Effaith ar drigolion a busnesau"

Dywed Mr James: "Yn y llythyr, mae cwsmeriaid yn cael eu cyfeirio at beiriannau twll yn y wal amgen, ac rydym yn poeni bod Barclays hefyd yn bwriadu symud eu peiriant tynnu arian di-dâl.

"Bydde hynny yn cael effaith sylweddol ar allu trigolion i godi arian ac felly fe fyddai 'na effaith ar fusnesau lleol."

Ychwanegodd ei fod am ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford ac arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Emlyn Dole yn gofyn i Lywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol ymchwilio i bob ffordd bosib o warchod gwasanaethau bancio yn yr ardal.

Un awgrym posib, meddai, fyddai creu safle cymunedol fyddai'n caniatáu i'r banc a darparwyr eraill barhau â'r presenoldeb yn yr ardal ond gan leihau cost cynnig gwasanaeth.