Cynnig Brexit newydd Johnson yn 'ffantasi' yn ôl Plaid

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Boris Johnson yn siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi galw cynnig Brexit newydd y Prif Weinidog yn "ffantasi".

Mae'r cynllun newydd yn cynnwys cael gwared ar y 'backstop' dadleuol, sef y polisi yswiriant i sicrhau nad oes 'na ffin galed ar ynys Iwerddon.

O dan y cynllun hwn, fe fyddai Gogledd Iwerddon yn aros o fewn y farchnad sengl ar gyfer nwyddau i bob pwrpas, ond fe fyddai o fewn yr un diriogaeth dollau a gweddill y DU.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn dweud bod "problemau" yn parhau, ond bod y sefyllfa'n symud ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb drwy ddweud y bydden nhw'n "ystyried y cynnig".

'Gwrthddywediadau'

Yn ei lythyr at Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, mae Boris Johnson yn dweud bod y cynlluniau'n "parchu penderfyniad pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd".

Ond dywedodd ei fod hefyd yn "ymdrin yn bragmataidd ag effaith y penderfyniad hwnnw ar Ogledd a Gweriniaeth Iwerddon".

Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts wedi galw cynllun Brexit newydd Boris Johnson yn "ffantasi"

Mewn ymateb mae Liz Saville Roberts wedi galw'r cynllun yn "ffantasi, llawn gwrthddywediadau gan brif weinidog mewn sefyllfa enbyd".

Ychwanegol: "Byddai'r argymhellion yn rhwygo Cymru allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau.

"Gyda phopeth byddai hynny'n golygu i'n sector ffermio, ein sector gweithgynhyrchu, ac ein hawliau.

"Nid yw'n datrys unrhyw un o'r problemau difrifol a ddaw i'n porthladdoedd oherwydd y ffin galed yn y môr rhwng Cymru ac Iwerddon."

'Rhwygo Cymru'

Mae'r UE wedi dweud y bydden nhw'n "gwyntyllu'r [cynigion] yn wrthrychol".

Mae disgwyl i'r DU adael yr UE ar 31 Hydref, ac mae'r llywodraeth wedi mynnu na fydden nhw'n trafod ymestyn y dyddiad ymhellach na diwedd y mis.

Wrth siarad yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ddydd Mawrth, dywedodd Mr Johnson mai'r unig ddewis arall i'w gynllun Brexit fyddai dim cytundeb.

Yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, y byddai Brexit yn cryfhau'r Deyrnas Unedig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles ei fod yn "annhebygol" bod y cynllun newydd yn cynnig ffordd ymlaen

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles y byddai "wrth gwrs yn ystyried y cynnig".

"Mae'n ymddangos yn annhebygol iawn fodd bynnag ei fod yn darparu sylfaen ar gyfer bargen a fyddai'n gydnaws ag egwyddorion sylfaenol gweddill aelodau'r UE," meddai.

"Mae ond yn tanio'r amheuaeth nad yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â dod o hyd i fargen ymarferol.

"Rydym yn amau os bydd hyn yn arwain at gytundeb ymadael newydd.

"Dylai'r Prif Weinidog ofyn am estyniad i Erthygl 50 a chynnig y mater yn ôl i'r cyhoedd."

Cynnig 'pragmataidd'

Dywedodd yr AS Ceidwadol David Jones bod cynnig Mr Johnson yn "bragmataidd" ac yn "haeddu ystyriaeth ddifrifol gan yr UE".

Ychwanegodd ei fod yn "ymgais i gyfaddawdu gan Lywodraeth y DU, sy'n haeddu parodrwydd tebyg i gyfaddawdu ar ran yr UE".