Gwrthbleidiau'n 'taflu baw' i rwystro proses Brexit

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson a Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Paul Davies gefnogi Boris Johnson i fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol

Mae'r gwrthbleidiau'n ceisio "taflu baw" at y Ceidwadwyr mewn ymgais i rwystro'r broses Brexit, yn ôl arweinydd Cymreig y blaid.

Dywedodd Paul Davies, arweinydd y blaid yn y Cynulliad bod hi'n "glir bod pobl Cymru eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yng nghynhadledd y blaid ym Manceinion, fe gefnogodd alwad y Prif Weinidog, Boris Johnson "i wireddu Brexit".

Mae'r DU i fod i adael yr UE ar 31 Hydref.

"Fel plaid, rydym wedi bod yn hollol glir ein bod eisiau parchu canlyniad y refferendwm a dyna pam y mae'r prif weinidog wedi gwneud hi'n glir y byddan ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref," meddai Mr Davies.

"Mae'r pleidiau gwleidyddol yn ceisio taflu mwd atom ni ar bob cyfle i geisio rhwystro'r broses Brexit, ond mae pobl Cymru wedi gwneud y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ac mae'n rhaid i ni nawr fynd ati i wneud hynny."

Gorymdaith yn erbyn Brexit digytundeb yng Nghaerdydd, ddydd Sadwrn 28 Medi
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna orymdaith yn erbyn Brexit yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Mae Mr Johnson wedi dweud y byddai'n well ganddo ddod i gytundeb gyda'r UE ond ei fod yn barod i adael yr undeb heb gytundeb.

Ond fe bleidleisiodd y Senedd o blaid deddfwriaeth yn gynharach ym mis Medi yn atal Brexit digytundeb.

Mae'n golygu bod angen i lywodraeth leiafrifol Mr Johnson gael cytundeb trwy Dŷ'r Cyffredin erbyn 19 Hydref neu berswadio ASau i gefnogi Brexit digytundeb i osgoi gorfod gofyn i'r UE Ewropeaidd i estyn dyddiad ymadael y DU i 31 Ionawr 2020.

"Addasu i fywyd" wedi Brexit

Roedd Mr Davies wedi dweud cyn y gynhadledd bod "rhaid i ni wireddu Brexit er mwyn gallu canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl.

Ychwanegodd: "Rydym ni yn credu bod pobl Cymru yn gallu derbyn yr her o addasu i fywyd tu allan i'r UE a bod gan Gymru a DU ddyfodol disglair unwaith ein bod ni'n gadael y UE."

Mae'r blaid yn dod at ei gilydd ym Manceinion er i Aelodau Seneddol wrthod cais gan y Llywodraeth am doriad o dri diwrnod i gynnal y gynhadledd.

Roedd y blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi cael eu cynadleddau blynyddol tra bod y Senedd wedi ei hatal.

Fe ddychwelodd ASau i San Steffan ddydd Mercher wedi i'r Goruchaf Lys benderfynu bod cau'r Senedd yn erbyn y gyfraith.