Y Bencampwriaeth: Charlton Athletic 1-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
André AyewFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

André Ayew sgoriodd y gôl fuddugol i'r Elyrch

Mae Abertawe wedi codi i frig y Bencampwriaeth unwaith eto ar ôl trechu Charlton Athletic yn Llundain nos Fercher.

Roedd hi'n ddechrau trychinebus i'r ymwelwyr, wrth i Jonathan Leko roi Charlton ar y blaen o fewn dau funud.

Ond fe wnaeth yr Elyrch daro nôl chwarter awr yn ddiweddarach, gydag ergyd Yan Dhanda yn gwyro heibio i'r golwr Dillon Phillips i gefn y rhwyd.

Aeth Abertawe ar y blaen wedi 65 munud wedi i André Ayew rwydo ar ôl i Joe Rodon wyro cic gornel Matt Grimes i'w lwybr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch yn dychwelyd i frig y tabl, un pwynt ar y blaen i Leeds United.