Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd
YmbarelFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn ne Cymru ddydd Gwener.

Mae'r rhybudd yn dod i rym am 04:00 tan 16:00 gyda disgwyl i ardaloedd yn Sir Gâr, Castell Nedd-Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Morgannwg gael eu heffeithio.

Mae cyngor i yrwyr cerbydau uchel gymryd gofal wrth deithio ar hyd pontydd ac mae disgwyl oedi ar y ffyrdd.

Fe allai'r tywydd hefyd gael effaith ar deithiau awyren, trenau a chychod fferi.

Gallai cyflenwadau trydan gael eu heffeithio ac mae rhybudd am donau uchel mewn ardaloedd arfordirol.