Cytundeb newydd i reolwr Casnewydd Mike Flynn

  • Cyhoeddwyd
Mike FlynnFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cytundeb newydd Mike Flynn yn golygu bydd yn aros gyda Chasnewydd tan o leiaf 2022

Mae rheolwr CPD Casnewydd, Mike Flynn wedi arwyddo cytundeb tan 2022 gyda'r clwb.

Roedd cytundeb Flynn, 38 oed, yn dod i ben ddiwedd y tymor.

Roedd cryn ddyfalu am ei ddyfodol ar ddechrau'r tymor ar ôl iddo gynnal trafodaethau i ddod yn rheolwr nesaf Lincoln City.

Mae Flynn wedi bod yn rheolwr ar Gasnewydd ers 2017 a bryd hynny fe lwyddodd i'w hachub rhag disgyn o Adran Dau.

Y llynedd fe wnaeth Flynn arwain Casnewydd i rownd derfynol y gemau ail gyfle ac hefyd i rediad arbennig yng Nghwpan FA Lloegr.

Dywedodd Mike Flynn: "Mae'n newyddion positif. Mae'n rhoi sicrwydd i mi ac i'r clwb, roeddwn yn disgwyl arwyddo cytundeb ar ôl y rownd derfynol.

"Ond mae'r amseru yma'n iawn a dwi'n gobeithio gallwn ni ganolbwyntio ar barhau gyda'r rhediad da yn y gynghrair."