Cwmni i gau ffatri ym Môn sy'n cyflogi 40 o weithwyr

  • Cyhoeddwyd
Marco Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Mae safle'r cwmni ar Stad Ddiwydiannol Parc Cefni

Mae cwmni sy'n cyflogi 40 o weithwyr ym Môn wedi cadarnhau eu bwriadu i gau eu safle yno a symud gwaith i ganolbarth Lloegr.

Dywedodd rheolwyr Marco Cable Management y bydd pawb sy'n gweithio yn Llangefni ar hyn o bryd yn cael cynnig swyddi yn ei safle yn West Bromwich.

"Cwymp yn y farchnad plastigion" yw'r rheswm dros y penderfyniad, medd y cwmni.

Bydd cyfnod o ymgynghori yn dechrau ar 11 Hydref, ond mae'r cwmni'n disgwyl y bydd yr holl waith wedi symud o Fôn erbyn diwedd mis Mawrth.

Cafodd y busnes ei sefydlu ar Ynys Môn yn 2003, ac mae bellach yn rhan o grŵp ehangach Atkore.

'Cyfnod anodd'

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod dim dewis ond ail-leoli, a bod nifer o'u cystadleuwyr hefyd wedi cael eu gorfodi i newid eu strwythurau yn y flwyddyn ddiwethaf.

Daw'r penderfyniad wedi "adolygiad manwl o adnoddau ac amodau marchnad newidiol" yn y DU.

Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd i'n gweithwyr a byddem yn gwneud popeth posib i'w helpu."

Mae datganiad y cwmni'n cydnabod "na fydd pob un o'r gweithwyr mewn sefyllfa i ail-leoli" i safle Unistrut UK yn West Bromwich.

Mewn rhai achosion, bydd rheolwyr yn trafod y posibilrwydd o gyfleoedd gwaith o fewn grŵp Atkore.

'Siom i'r ynys'

Dywedodd Paddy McNaught o undeb Unite, sy'n cynrychioli rhai o'r gweithwyr: "Mae hyn yn newyddion siomedig iawn i'r ynys - esiampl eto fyth o gwmni'n symud i rywle arall.

"Mewn gwirionedd, ychydig iawn o siawns sydd yna bydd pobl eisiau codi pac a symud eu teuluoedd... felly mae'n ymddangos yn anochel bydd rhai pobl yn colli eu swyddi."

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi bod y newyddion "yn siom fawr i'r ynys ac yn ergyd ddifrifol i'r gweithlu, eu teuluoedd, cymuned Llangefni ac ardaloedd y cylch".

Ychwanegodd y bydd y cyngor yn cynnal trafodaethau brys gyda'r cwmni a phartneriaid eraill "er mwyn deall eu sefyllfa a chytuno ar gynllun ble gallwn gefnogi'r gweithwyr, ynghyd â'r cwmnïau sy'n rhan o'r gadwyn cyflenwi".