Galw am gyflwyno polisi dim cnau ar hediadau

  • Cyhoeddwyd
Sara Dafydd a Meleri WilliamsFfynhonnell y llun, Ysgol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Sara Dafydd a Meleri Williams deithio ar fws am 26 awr ar ôl gorfod gadael hediad oherwydd alergedd

Mae angen cyflwyno polisi clir er mwyn rhwystro cwmnïau awyrennau rhag gwerthu cnau yn ystod hediadau, yn ôl arbenigwr ym maes alergedd.

Dywedodd Gwyneth Davies, Athro Meddygaeth Anadlol ym Mhrifysgol Abertawe, y byddai cyflwyno rheol o'r fath yn helpu diogelu'r rhai sy'n byw gydag alergedd.

Ar hyn o bryd mae polisïau sy'n ymwneud â gwerthu cnau yn amrywio o gwmni i gwmni.

Mae angen i hyn newid, yn ôl yr Athro Davies, gan y byddai ymateb difrifol i alergedd ar awyren "yn gallu peryglu bywyd" a bod angen cysondeb ar draws y sector.

Ar ôl gorfod gadael hediad yn ddiweddar oherwydd eu bod yn gwerthu cnau, mae myfyrwraig sydd ag alergedd yn cytuno bod angen newid polisïau rhai cwmnïau.

Mae Meleri Grug Williams, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi bod ag alergedd at gnau ers pan roedd hi'n wyth oed.

Roedd Ms Williams a'i ffrind, Sara Dafydd, yn teithio i'r Wladfa ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan y brifysgol i fynd i wirfoddoli yn Ysgol y Cwm, Trevelin.

Roedden nhw'n ar fin teithio ar hediad cwmni Aerolíneas Argentinas o Buenos Aires i Esquel ym mis Awst, pan eglurodd Ms Williams ddifrifoldeb ei chyflwr i staff yr awyren.

Ond fe ddywedodd y gweithwyr nad oedd modd newid y trefniadau, ac y byddai cnau yn cael ei rhoi i'r teithwyr fel yr arfer.

Ffynhonnell y llun, Meleri Grug Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meleri Grug Williams wedi bod ag alergedd at gnau ers pan roedd hi'n wyth oed

"Nes i ddisgrifio pa mor ddifrifol oedd fy alergedd i - y ffaith y gallwn i farw pe tawn i mewn lle caeedig gyda chnau o gwmpas," meddai.

"Fe wnaethon nhw ddweud, yn syml, na fyddai'n bosib cael gwared â'r cnau gan mai dyma'r oll yr oedd ganddyn nhw i'w roi i'r cwsmeriaid.

"Roedd e'n brofiad mor anghyfforddus, a dylai alergedd neu unrhyw gyflwr meddygol ddim dal unrhyw un yn ôl o ran teithio, a fi'n credu bod rhaid codi ymwybyddiaeth.

"Yn enwedig i berson ifanc, mae e mor bwysig fod pobl yn teimlo'n gyfforddus i ddweud, ac nad yw'n ein dal ni 'nôl mewn unrhyw ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Gwyneth Davies bod angen cyflwyno un polisi cyffredin er mwyn diogelu teithwyr

Doedd Aerolíneas Argentinas ddim am wneud sylw am y digwyddiad yma, ond maen nhw'n nodi ar eu gwefan bod cnau yn cael eu gwerthu yn ystod eu hediadau.

Er bod rhai cwmnïau fel EasyJet yn ceisio osgoi cnau o unrhyw fath ar eu hediadau, mae digon o gwmnïau eraill fel Emirates yn dweud y bydd cynnyrch cnau ar eu hediadau a bod rhaid gwneud paratoadau arbennig yn sgil hynny.

Ond mae'r Athro Davies yn dweud ei bod hi'n gwneud synnwyr i gyflwyno un polisi cyffredin er mwyn diogelu teithwyr.

"Mae 'na rai pobl sy'n cael adwaith difrifol hyd yn oed gyda llwch cnau yn yr awyr, felly ar hediad fyddai'n bwysig bod dim cnau ar yr awyren o gwbl," meddai.

"Er mwyn diogelwch, dwi'n meddwl dylid cael polisi o ddim cnau o gwbl - megis mewn ysgolion er enghraifft - achos os mae yna alergedd cnau difrifol yn digwydd ar awyren mae hynny'n gallu peryglu bywyd."

'Bron yn amhosib'

Yn ôl Mike Watson, arbenigwr yn y diwydiant awyrennau, byddai cyflwyno newid o'r fath bron yn amhosib.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n anodd iawn cael un polisi ar draws y cwmnïau i gyd," meddai.

"Mae gennych chi wahanol awyrennau yn hedfan o wahanol wledydd sy'n dod o dan reolaeth gwahanol awdurdodau.

"Yr Awdurdod Hedfan Sifil sy'n edrych ar ôl awyrennau Prydain, ond os ewch chi i'r Unol Daleithiau mae 'na awdurdod arall eto.

"Wrth i'r awyrennau 'ma hedfan o amgylch y byd - i lefydd sydd â gwahanol agweddau tuag at y mater efallai - dwi'n meddwl bod o bron iawn yn amhosib i'w reoli."

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar strategaeth Aviation 2050 - sy'n cynnwys rhai mesurau pellach i amddiffyn teithwyr sydd ag alergeddau.