13 o hen siopau Thomas Cook wedi ailagor yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae 13 o hen ganghennau Thomas Cook yng Nghymru wedi ailagor a 150 o staff yn ôl wrth eu gwaith ers i'r busnes ddod dan reolaeth cwmni newydd.
Hays Travel sydd bellach yn gyfrifol am holl safleoedd Thomas Cook drwy'r DU ar ôl dod i gytundeb gyda'r derbynwyr, KPMG.
Daeth cwymp Thomas Cook ym mis Medi wedi misoedd o drafferthion ariannol a methiant i sicrhau cyllid ychwanegol i achub y busnes.
Mae'r perchnogion newydd yn gobeithio cyflogi "gymaint â phosib o'r 2,500 o gyn-weithwyr siopau Thomas Cook o fewn yr wythnosau nesaf, gan ddyblu'i weithlu" ar draws y DU.
"Mae hyn yn gam gwych gan John ac Irene Hays sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr - i gamu i'r adwy mor sydyn a diogelu swyddi a bywoliaeth gymaint o bobl ar draws Cymru," meddai Richard Ashford, rheolwr gwerthiant rhanbarthol Thomas Cook yng Nghymru sydd bellach yn rheolwr rhanbarthol Hays Travel yn ne Cymru.
"Ar ran y rhanbarth cyfan, hoffwn ddiolch yn fawr i'r teulu Hays."
Cafodd Hays Travel - sydd â phencadlys yn Sunderland - ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl ac roedd yn cyflogi tua 1,900 o weithwyr cyn y cytundeb i achub busnes Thomas Cook.
Dywed y cwmni eu bod "yn falch iawn o gael presenoldeb yng Nghymru am y tro cyntaf".
24 o ganghennau oedd gan Thomas Cook pan fu'n rhaid stopio gweithredu. Dyma'r canghennau sydd wedi ailagor:
Aberdâr
Aberhonddu
Abertawe
Caerfyrddin
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd
Cwmbrân
Llanelli
Pen-y-bont ar Ogwr
Pontypridd
Tonypandy
Y Coed Duon
Mae'n fwriad hefyd i agor y canghennau canlynol:
Aberteifi
Bangor
Y Barri
Tair cangen yng Nghaerdydd
Llanilltud Fawr
Maesteg
Merthyr Tudful
Port Talbot
Porth
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2019
- Cyhoeddwyd23 Medi 2019