Llywydd: Angen ymateb i ddedfrydau 'annerbyniol' Catalunya

  • Cyhoeddwyd
Protestio ym maes awyr El Prat yn BarcelonaFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogwyr y gwleidyddion a'r heddlu wedi bod yn gwrthdaro y tu allan i faes awyr El Prat yn Barcelona

Mae Llywydd y Senedd wedi galw ar y gymuned ryngwladol i anfon neges glir i Sbaen, ar ôl i wleidyddion o Gatalunya gael eu carcharu am eu rhan mewn refferendwm annibyniaeth yn 2017.

Mae protestwyr a'r heddlu wedi bod yn gwrthdaro yn dilyn penderfyniad Goruchaf Lys Sbaen ddydd Llun i garcharu'r naw am gyfnodau rhwng naw ac 13 mlynedd, a rhoi cosb ariannol i dri arall.

Mae'r refferendwm yn cael ei ystyried gan lywodraeth Sbaen fel un anghyfreithlon, ond roedd y 12 diffynnydd yn gwadu'r cyhuddiad o annog gwrthryfel.

Ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd Elin Jones fod y dedfrydau'n "gwbl annerbyniol".

Dywedodd Ms Jones: "Mae'n anghyfiawnder anhygoel gan lysoedd a gwladwriaeth Sbaen i fod yn carcharu democratiaid, pobl wedi eu hethol yn gwneud eu gwaith bob dydd fel cynrychiolwyr pobl yng Nghatalunya," meddai.

"Pobl sydd, fel fi, ac aelodau eraill o Senedd Cymru yn gwneud ein gwaith yn cynrychioli barn pobl yma yng Nghymru, a'u bod nhw - oherwydd iddyn nhw gynnal pleidlais ac yna gynnal refferendwm ar annibyniaeth - yn cael eu carcharu gan y llysoedd barn yn Sbaen."

Ffynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r dyfarniad ddydd Llun fe ymgasglodd miloedd o ymgyrchwyr i brotestio ym maes awyr Barcelona

Ym mis Medi 2017 fe wnaeth Ms Jones, yn rhinwedd ei swydd fel y Llywydd, ysgrifennu llythyr agored at Lywydd Senedd Catalunya, Carme Forcadell, i ddweud ei bod yn "cefnogi'r mandad democrataidd" i drefnu refferendwm ar annibyniaeth.

Mae llywodraeth Sbaen o'r farn bod y refferendwm yn anghyfansoddiadol, a dechreuodd achos yn erbyn 12 o wleidyddion senedd a llywodraeth Catalunya, ymgyrchwyr gwleidyddol a ffigyrau celfyddydol yn y gwanwyn.

Drwy gydol yr achos, a barodd bedwar mis, roedd y 12 yn honni eu bod yn cael eu herlyn yn anghyfiawn a bod yr achos wedi ei seilio ar gelwyddau.

Ers i'r dedfrydau gael eu cyhoeddi mae miloedd o bobl wedi bod yn protestio ym mhrif ddinas y rhanbarth, Barcelona, gyda nifer sylweddol o ymgyrchwyr a'r heddlu yn gwrthdaro ym mhrif faes awyr y ddinas, El Prat.

Mae delweddau yn dangos pobl yn ceisio torri drwy linellau o swyddogion heddlu o flaen un rhan o'r adeilad, ac mewn lluniau eraill mae swyddogion i'w gweld yn taro protestwyr gyda ffyn ac yn ceisio chwalu'r dorf gyda nwy.

Yn ôl awdurdod awyr Sbaen, Aena, cafodd 108 o hediadau eu canslo ddydd Llun.

Angen ymateb 'chwyrn'

Mae Ms Jones nawr yn galw ar y gymuned ryngwladol i "ymateb yn chwyrn" a "dweud wrth Sbaen, wrth y wladwriaeth, fod carcharu pobl am weithredu'n ddemocrataidd ac yn ddi-drais yn gwbl annerbyniol".

Ychwanegodd bod "gwneud hynny o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn gwbl anhygoel, pan y'n ni wedi selio'n holl gymdeithas ar sail ddemocrataidd, ar sail y ffaith fod gan bobl yr hawl i hunan benderfyniad".

"Pobl gyffredin yw'r bobl yma sydd yn y carchar, dy'n nhw ddim wedi bod yn dreisgar mewn unrhyw ffordd. Maen nhw wedi bod yn cynnal eu dadleuon dros hawl eu gwlad eu hunain."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth achos llys y 12 diffynydd yn Madrid i ben ym mis Mehefin

Bu Ms Jones yn ymweld â Ms Forcadell y llynedd, tra'r oedd hi'n aros am ei hachos llys.

"Carme Forcadell - mae'n fam, yn fam-gu - mae hi wedi bod yn y carchar am 18 mis, heb achos llys, a nawr mae hi'n wynebu 11 mlynedd yn y carchar.

"Mae hi'n gwneud yr union yr un gwaith ag ydw i'n ei wneud bob dydd - dwi ar fin mynd i mewn i'r Senedd nawr i lywyddu ar Senedd Cymru.

"Dyna beth roedd hi'n wneud, a dyna pam mae hi yn y carchar.

"Mae'n gwbl anfaddeuol ar lywodraeth Sbaen i ganiatáu i hyn ddigwydd, ac mae'n bwysig fod y byd i gyd yn rhoi gwybod hynny i Sbaen."