Llywydd y Cynulliad yn sefyll 'ochr yn ochr' â Catalunya
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Cynulliad wedi dweud ei bod yn sefyll "ochr yn ochr" â Senedd Catalunya wrth iddyn nhw drefnu refferendwm ar annibyniaeth.
Mewn llythyr agored i Lywydd y Senedd, Carme Forcadell i Lluis, dywedodd Elin Jones ei bod yn "cefnogi'r mandad democrataidd sydd gennych" i gynnal y bleidlais.
Daw hynny wedi i Lywodraeth Sbaen fynnu nad yw'r refferendwm yn mynd yn ei blaen, gan ddweud ei bod yn anghyfansoddiadol.
Yn y cam diweddaraf, mae llys cyfansoddiadol y wlad wedi gosod dirwy ddyddiol o hyd at €12,000 (£10,600) i uwch swyddogion Catalunya am bob diwrnod maen nhw'n parhau i drefnu'r bleidlais.
'Egwyddorion'
Yn ei llythyr, dywedodd Ms Jones fod ganddi "gred yn hawl sylfaenol pobl i benderfynu eu dyfodol eu hunain".
Ychwanegodd mai "mater i'w dinasyddion ei hun yw dyfodol Catalonia", ond y dylai hynny ddigwydd "trwy refferendwm a gefnogir gan eich senedd genedlaethol".
"Mae gan Senedd a Llywodraeth Sbaen, a Senedd a Llywodraeth Catalonia, yr hawl i'w barn ynglŷn ag annibyniaeth ond rhaid glynu wrth yr egwyddorion sy'n llywio democratiaeth iach," meddai.
"Gallaf eich sicrhau felly, fel Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fy mod y sefyll ochr yn ochr â Senedd Catalonia a'r dinasyddion y mae'n eu cynrychioli, wrth gefnogi'r mandad democrataidd sydd gennych i gynnal refferendwm ar ddyfodol Catalonia."
Mae sawl un o wleidyddion a swyddogion amlycaf Catalunya eisoes wedi eu harestio'r wythnos hon, gan gynnwys un o uwch swyddogion y trysorlys sydd yn cael ei gyhuddo o annog bradwriaeth.
Yn y cyfamser bu cefnogwyr annibyniaeth yn protestio y tu allan i'r llys yn Barcelona yn erbyn camau Llywodraeth Sbaen, sydd wedi cynnwys atafaelu pamffledi a phapurau pleidleisio yn ymwneud â'r bleidlais.
Dywedodd Is-lywydd Catalunya, Oriol Junqueras fod gweithredoedd yr heddlu wedi amharu ar drefniadau'r refferendwm, sydd i fod i gael ei chynnal ar 1 Hydref, ond fod "popeth yn cael ei wneud" i geisio bwrw 'mlaen.
Mae Arlywydd Catalunya, Carles Puigdemont wedi cyhuddo'r llywodraeth ganolog o "atal datganoli" wedi iddyn nhw gymryd rheolaeth o arian y rhanbarth.
Ond mewn ymateb mynnodd llefarydd ar ran Llywodraeth Sbaen fod Mr Puigdemont yn "dweud celwydd, twyllo ac yn trafod yn ddeheuig".
'Sen ar ddemocratiaeth'
Yn ogystal â llythyr Elin Jones, mae ACau eraill hefyd wedi cyhoeddi datganiad yn mynegi "ein pryderon ynglŷn â'r sefyllfa yng Nghatalonia a gweithredoedd Llywodraeth Sbaen".
"Rydym yn galw ar lywodraeth Sbaen i chwarae rôl adeiladol gan annog datrysiad o'r sefyllfa bresennol drwy ddialog wleidyddol yn hytrach na thrwy ffyrdd gorfodol neu fygwth cyfreithlona," meddai'r datganiad, sydd wedi'i gefnogi gan 15 o ACau Plaid Cymru, Llafur, UKIP, ac annibynnol.
"Mae'n rhaid i ddemocratiaeth a hawliau dynol gael eu parchu ac mae'n rhaid i bobl Catalonia gael yr hawl i gynnal ymgynghoriad heddychlon, tryloyw a democrataidd ar ei dyfodol."
Mewn ymateb i gwestiwn ar y mater yn y Senedd ddydd Mercher fodd bynnag, dywedodd Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt nad oedd gan Lywodraeth Cymru "gynlluniau i wneud datganiad ar hyn o bryd" ar y sefyllfa yng Nghatalunya.
Mae'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol yn San Steffan hefyd wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod yn "bryderus iawn" gyda'r camau sydd wedi eu cymryd gan Lywodraeth Sbaen.
"Mae ceisio ei rwystro neu ei atal drwy sancsiynau, cyhuddiadau troseddol a gweithredu uniongyrchol gan wladwriaeth Sbaen yn sen ar ddemocratiaeth, ac yn bygwth gwaethygu'r berthynas rhwng Catalonia a gweddill Sbaen," meddai'r datganiad, oedd yn cynnwys llofnodion yr ASau Hywel Williams a Ben Lake, a'r Arglwydd Wigley.
Ymysg yr ASau eraill sydd wedi datgan cefnogaeth i'r refferendwm mae Paul Flynn o'r Blaid Lafur, a ddywedodd mewn neges ar Twitter: "Bydd y camddefnydd trahaus a gwrth-ddemocrataidd o bŵer gan Lywodraeth Sbaen yn cael ei drechu gan angerdd y Catalaniaid dros annibyniaeth."
Ar y llaw arall mynnodd AS Llafur Rhondda, Chris Bryant: "Mae'r refferendwm yn anghyfreithlon. Yr unig beth sy'n digwydd fan hyn yw bod y cyfoethog yn cefnu ar y tlawd. Gwell cydsafiad mewn Sbaen unedig, tlawd a chyfoethog."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2017