Pleidlais Brexit: Beth ddywedodd ASau Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Ty'r CyffredinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i fwyafrif o ASau Cymru wrthod cytundeb Brexit Boris Johnson

Cyn i welliant Letwin gael ei basio bu nifer o Aelodau Seneddol Cymru yn siarad yn ystod y drafodaeth yn Nhŷ'r Cyffredin fore Sadwrn a dyma oedd gan rai ohonynt i'w ddweud.

'Cytundeb gwerth ei basio'

Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb bod y cytundeb yn "dda i'r wlad" ac mae wedi annog ASau i'w gefnogi.

Wrth siarad â'r BBC dywedodd ei fod wedi amau Mr Johnson yn yr haf ond ei fod bellach wedi newid ei feddwl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cytundeb yn werth ei basio yn ôl cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb

Fe bleidleisiodd Mr Crabb, sy'n cynrychioli Preseli Penfro yn San Steffan, i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 ond mae'n dweud ei fod wedi cael ei brofi'n anghywir.

Dywedodd: "Roeddwn yn un o'r amheuwyr yn yr haf. Fe ysgrifennais i erthyglau yn cwestiynu strategaeth Brexit ond mae e [Boris Johnson] wedi profi bod llawer o'i amheuwyr yn anghywir.

"Mae e wedi llwyddo i ailagor y trafodaethau. Mae e wedi profi ei fod yn fodlon cyfaddawdu mewn ffordd nad oedd neb yn credu oedd o fewn ei allu.

"Mae wedi cyflwyno cytundeb sy'n fwy na goddefol. Dyma gytundeb sy'n dda i'r wlad.

"Dwi'n credu ei fod yn dda i Ogledd Iwerddon. Mae'n amddiffyn y broses heddwch ac yn rhoi Gogledd Iwerddon mewn lle da yn economaidd - dyma gytundeb sy'n werth ei basio."

Mae'r cyn-Weinidog Brexit ac AS Gorllewin Clwyd, David Jones, hefyd wedi dweud wrth y BBC ei fod yn cefnogi'r cytundeb.

Disgrifiad o’r llun,

"Angen rhoi'r cytundeb ger bron y bobl," medd Kevin Brennan AS Gorllewin Caerdydd

Ond wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, galwodd Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, ar i'r Prif Weinidog i gyflwyno'r cytundeb ger bron y bobl.

Fe atgoffodd Mr Brennan yr Ysgrifennydd Gwladol dros adael yr UE, Stephen Barclay, ei fod wedi pleidleisio yn erbyn cytundeb Theresa May ddwywaith cyn newid ei feddwl.

Dywedodd Mr Brennan: "Pam nad oes gan y llywodraeth felly y dewrder i ganiatáu yr un fraint i'r bobl fel eu bod nhw yn gallu mynegi barn ar y cytundeb?"

Wrth ymateb dywedodd Mr Barclay y dylai Mr Brennan gefnogi etholiad cyffredinol ac ychwanegodd ei bod yn "bwysig nad yw gwleidyddion yn dewis a dethol pa ganlyniadau pleidlais y maent yn glynu atynt a bod yn rhaid parchu y bleidlais fwyaf erioed yn hanes y wlad".

'Cytundeb angheuol'

Yn Nhŷ'r Cyffredin fore Sadwrn dywedodd Liz Saville Roberts ei bod methu credu bod Mr Johnson "yn gofyn i ni dderbyn ei air ac ymddiried yng ngoblygiadau y cytundeb".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, nad oedd modd cymeradwyo y ddogfen 535 tudalen a hithau newydd ei derbyn

"Mae fy nghalon yn dweud wrthyf na fydd pobl Cymru fyth yn cael eu gwasanaethu gan y llywodraeth yma. Dyw Cymru ddim yn flaenoriaeth.

"Dim ond bore 'ma y cawsom y ddogfen gyfreithiol 535 tudalen - sut all Plaid Cymru gefnogi Brexit y biliwnydd?"

Wrth ymateb dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn credu bod Ms Roberts wedi gwneud penderfyniad ar y ddogfen 535 tudalen cyn ei darllen, gan ei hatgoffa bod Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael a gofynnodd iddi barchu hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ddyletswydd gwrthod y cytundeb, medd Geraint Davies AS Gorllewin Abertawe

Dywedodd Geraint Davies, AS Gorllewin Abertawe, fod y wlad yn wynebu "cytundeb angheuol".

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd: "Does gennym ddim sicrwydd na fydd y Prif Weinidog yn osgoi gadael heb gytundeb yn y cyfnod trosglwyddo er ei fod yn ymwybodol bod unrhyw gytundeb yn cymryd dros flwyddyn i'w lunio.

"Mae gennym flwyddyn ac fe fyddwn yn gadael heb gytundeb - ein dyletswydd yw pleidleisio yn erbyn y cytundeb."

Brynhawn Sadwrn fe anfonodd Ann Clwyd, AS Cwm Cynon, neges ar ei chyfrif Twitter yn dweud bod y cytundeb sy'n cael ei gynnig yn warth.

Nododd: "Onid yw'r Prif Weinidog wedi anghofio faint o amser gymerodd hi i ddod â heddwch i Ogledd Iwerddon? Mae difetha hynny yn drosedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, awyddus i gynnig gwelliant i roi'r bleidlais yn ôl i'r bobl

Wedi'r bleidlais dywedodd yr aelod seneddol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, Jane Dodds AS: "Cofiwch mai'r peth 'da ni 'di bod yn deud am dair blynedd ydy hyn, mae'n rhaid i ni gael Brexit heb gytundeb i ffwrdd o'r bwrdd, ac roedden ni'n poeni dipyn bach bod hynny ddim am ddigwydd, achos mae'n effeithio ar bawb, felly 'da ni'n falch bod o wedi mynd."

"Da ni wedi bod yn gweithio gyda'r pleidiau eraill, yn llwyddiannus iawn, ac fe fyddwn ni'n cario ymlaen i wneud hynny," meddai Ms Dodds, "ond be 'da ni am wneud ydy cael rhyw fath o 'amendment' i Araith y Frenhines i ddweud bod yn rhaid i'r bleidlais fynd yn ôl i'r bobl, ac yna cael rhyw fath o fargen i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur."