120 yn rhagor o swyddi hawlio iawndal PPI yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni yn Nhorfaen a fu'n helpu pobl i hawlio iawndal Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) am dros 10 mlynedd yn rhagweld y bydd 120 yn rhagor o swyddi yn diflannu.
Cyhoeddodd rheolwyr We Fight Any Claim (WFAC) ym mis Medi bod rhaid cau 130 o swyddi gan fod yna ddim digon o gyfleoedd gwaith ar gyfer y gweithlu yng Nghwmbrân wedi i'r cyfnod ceisio am iawndal ddod i ben.
Dywed y cwmni - sy'n rhan o'r busnes We Plan Group - bod 35 o weithwyr wedi eu diswyddo'n orfodol yn sgil y cyhoeddiad hwnnw, a bod y gweddill wedi cael swyddi newydd mewnol neu gyda chyflogwr newydd.
Ond mae'r cwmni'n dweud bod rhagor o swyddi nawr dan fygythiad gan fod benthycwyr "heb baratoi" ar gyfer delio â nifer fawr o geisiadau yn y chwe wythnos olaf cyn y dyddiad cau i hawlio iawndal, ac yn araf o ganlyniad i ymateb i'r ceisiadau hynny.
Effaith 'diffyg gweithredu'
"Mae'r diffyg gweithredu gan y banciau'n cael effaith nid yn unig ar y cannoedd o filoedd o gwsmeriaid sy'n aros am iawndal, ond hefyd arnom ni a'n gweithwyr," meddai Richard Thomas, prif weithredwr We Plan Group.
"Unwaith eto rydym yn dechrau ymgynghori gyda'n staff ac fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i leihau nifer y diswyddiadau gorfodol.
"Fe wnaethon ni lwyddo i leihau'r nifer o staff a gafodd eu heffeithio yn y rownd gyntaf a byddem yn parhau i gynnig pecyn cefnogaeth llawn i'r rhai sy'n cael eu heffeithio y tro hwn."
Dywed WFAC eu bod wedi delio â nifer "digynsail" o ymholiadau a chwynion yn ystod y chwe wythnos olaf cyn y dyddiau cau, ac wedi "buddsoddi'n sylweddol o ran adnoddau technolegol a dynol" er mwyn rhoi gwasanaeth i'w cwsmeriaid.
Maen nhw hefyd yn dweud bod benthycwyr "ddim yn cymryd camau" i gyflymu eu hymateb i geisiadau, a'u bod "wedi gweld gostyngiad o 80% yn nifer y cynigion sy'n ein cyrraedd".
Ychwanegodd bod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cynghori cwmnïau fel WFAC "eu bod mewn perygl o golli eu trwyddedau" os maen nhw'n ceisio rhoi pwysau ar fenthycwyr i ymateb yn gynt.
Cyhoeddodd yr FCA yr wythnos ddiwethaf efallai na fydd cwmnïau'n derbyn ymatebion terfynol i gwynion tan haf y flwyddyn nesaf, er bod disgwyl i fanciau ddelio â chwynion o fewn 12 wythnos.
Mae'r sefyllfa, medd y cwmni wedi effeithio'n ddifrifol ar yr incwm tebygol ac ar y busnes ac "mae We Plan Group, sy'n darparu staff a gwasanaethau i WFAC, yn credu y gallai 120 o swyddi yn rhagor gael eu colli".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2019