David Starkey: 'Trasiedi' petai Prydain yn chwalu
- Cyhoeddwyd
Byddai'n 'drasiedi' petai'r Deyrnas Unedig yn chwalu yn sgil Brexit, yn ôl un o haneswyr mwyaf adnabyddus Prydain.
Dywedodd David Starkey, sy'n cymryd rhan mewn gŵyl hanes yng Nghymru ar 25 Hydref, y byddai dyfodol undod gwledydd Prydain yn fwy ansicr o adael Ewrop ac y byddai'n drist petai'n dod i ben oherwydd llwyddiant y bartneriaeth ers canrifoedd.
Roedd yr hanesydd cyfansoddiadol, sydd wedi ysgrifennu dros 20 o lyfrau ac wedi cyflwyno nifer o raglenni teledu a radio, yn siarad gyda Cymru Fyw cyn rhoi darlith ar Harri VIII a Brexit, yn Pontio, Bangor.
'Gwledydd Prydain wedi cyfoethogi ei gilydd'
Dywedodd: "Byddai'n drasiedi petai'r Deyrnas Unedig yn diddymu ac yn chwalu.
"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cyd-dynnu yn reit dda gyda'n gilydd, dwi'n meddwl ein bod wedi cyfoethogi ein gilydd a dwi'n meddwl - na, dwi'n gwybod - mai'r Deyrnas Unedig Prydain ydi'r wladwriaeth fwyaf llwyddiannus yn y byd ac mae cyfystyr â moderniaeth.
"Mae'n ddryswch llwyr ar hyn o bryd a byddai'n ofnadwy petai'n dod i ben, ond mae popeth da yn dod i ben."
Ychwanegodd ei bod yn anodd rhagweld beth fyddai'n digwydd ond byddai Brexit yn cynyddu'r posibilrwydd o rannu. Byddai'n broblem enfawr i'w gyflawni yn ymarferol, meddai, yn enwedig o ystyried pa mor drafferthus ydi'r trafodaethau diweddar wedi bod rhwng llywodraeth Prydain a gweddill Ewrop:
"Byddai hyd yn oed yn anoddach yng Nghymru na'r Alban, oherwydd does gan Gymru ddim hanes fel gwladwriaeth hunanlywodraethol ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny.
"Os feddyliwch chi am y problemau o ddatgysylltu Prydain oddi wrth Ewrop ar ôl dim ond 40 mlynedd, meddyliwch geisio gwneud hynny efo'r Alban ar ôl 300 mlynedd."
Harri VIII a Brexit
Mae David Starkey yn cymryd rhan yng Ngŵyl Hanes y Pedwar Gwlad Prifysgol Bangor rhwng 25-26 Hydref.
Mae ei ddarlith Henry VIII: The First Brexiteer? yn cymharu'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda'r Diwygiad Protestannaidd. Yr un tensiynau sydd i'w gweld heddiw rhwng Prydain ac Ewrop ag oedd yn bodoli yn y cyfnod hwnnw yn ôl yr academydd:
"Mae'r Diwygiad yn frwydr dros union yr un materion.
"Maen nhw'n brwydro dros awdurdod y llys barn - hynny ydi pam ddylai Harri VIII orfod cael ei ysgariad o Rufain? - yn union fel y cwestiynau sy'n codi heddiw am Lys Cyfiawnder Ewrop; maen nhw'n brwydro dros arian - faint mae o'n ei dalu.
"Hefyd y Diwygiad ydi'r foment pan mae'r syniad o sofraniaeth seneddol yn cael ei ddatblygu. Tydi sofraniaeth seneddol ond yn gweithio os oes sofraniaeth genedlaethol ac mae Harri VIII yn hollol glir bod hynny'n golygu bod y wladwriaeth yn rhydd o unrhyw reolaeth o'r tu allan."
Mae'r ddarlith yn cael ei chynnal dafliad carreg o leoliad cartref cyndeidiau Harri VIII - sef Tuduriaid Penmynydd, Ynys Môn.
Ond yn ôl David Starkey, sydd wedi cyflwyno cyfres deledu am y brenin, fyddai Harri VIII yn annhebygol o werthfawrogi'r cysylltiad.
"Fyddai o ddim wedi bod yn hapus yn cael ei atgoffa ei fod yn ddisgynnydd i werinwr Cymreig neu beth bynnag.
"Roedd Harri VII yn ymwybodol iawn o'i Gymreictod, ond Harri VIII wrth gwrs oedd y dyn wnaeth geisio gwahardd siarad Cymraeg."
Hefyd o ddiddordeb: