Agor llwybr seryddol y canolbarth i geisio denu ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd
Y BwaFfynhonnell y llun, Dafydd Wyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Y Bwa ger Pontarfynach wedi derbyn gwobr awyr dywyll

Mae llwybr seryddol newydd wedi cael ei agor ym Mynyddoedd Cambrian ar ôl i chwech o leoliadau gael eu gwobrwyo gyda statws Darganfod yr Wybren Dywyll.

Y gobaith yw y bydd y llwybr - sy'n ymestyn am bellter gyrru o 50 milltir - yn denu mwy o ymwelwyr i'r ardal sy'n cael ei hystyried gyda'r gorau yn y DU ar gyfer gwylio'r sêr.

Y chwe lleoliad yw Coed Y Bont ym Mhontrhydfendigaid a'r Bwa ger Pontarfynach, y ddau yng Ngheredigion; maes parcio Llyn Brianne yn Rhandirmwyn a Mynydd Llanllwni yn Sir Gâr; ac ym Mhowys, Pont ar Elan yng Nghwm Elan a thafarn y Star Inn yn Nylife.

Mae'r awyr yn y lleoliadau hyn gyda'r tywyllaf yn Ewrop, ac yn wahanol i brofiad mwyafrif y bobl sy'n byw ym Mhrydain lle mae llygredd goleuni difrifol.

Mae llai na 10% o'r boblogaeth yn gallu edrych allan trwy eu ffenestri gartref ar wybren wirioneddol dywyll.

Ffynhonnell y llun, Sam Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pont ar Elan yn un o ddau leoliad sydd wedi eu gwobrwyo ym Mhowys

Mae prosiect Dyfodol Cambrian - sy'n anelu at gynyddu proffil Mynyddoedd Cambrian - yn gobeithio y bydd y safleoedd yn denu mwy o ymwelwyr i'r ardal.

Mae'r prosiect wedi cyhoeddi canllaw newydd ar gyfer ymwelwyr sy'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer gwylio'r sêr a llefydd i aros ger y safleoedd wybren dywyll.

Dywedodd Dafydd Wyn Morgan, rheolwr y prosiect: "Mae Mynyddoedd Cambrian Cymru yn un o'r llefydd gorau yn y byd i wylio'r wybren dywyll.

"Mae'n gyrchfan sydd werth ymweld â hi er mwyn darganfod golygfeydd anhygoel o'r tirwedd gyda'r dydd a'r nos.

"Pan mae'r awyr yn glir gallwch weld y Llwybr Llaethog, sêr gwib a'r Orsaf Ofodol Ryngwladol."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ger Mynydd Llanllwni

Mae Claire Goodman-Jones yn dywysydd teithiau cerdded sy'n cynllunio teithiau yn ystod y nos yn yr ardaloedd wybren dywyll: "Mae Mynyddoedd Cambria mor arbennig - ac yn y nos does yna ddim llygredd awyr, nac unrhyw fath o lygredd mewn gwirionedd.

"Mae'r awyr mor glir - dwi'n mynd â phobl allan i gerdded yn ystod y dydd yn barod a nawr rwy'n gobeithio arwain teithiau yn y nos er mwyn i bobl weld pethau nad ydyn nhw wedi gweld o'r blaen."