Oedi posib ar drenau rhwng y gogledd a de Cymru
- Cyhoeddwyd
Gallai gwasanaethau trenau rhwng y gogledd a'r de cael eu canslo am hyd at wythnos yn dilyn difrod i reilffyrdd yn sgil llifogydd dros y penwythnos.
Mae Network Rail wedi cadarnhau bod llifogydd wedi difrodi rhannau o'r lein rhwng Pontirlas, Sir Henffordd fydd yn effeithio'r gwasanaeth rhwng Henffordd ac Y Fenni.
Daeth cadarnhad gan y Swyddfa Dywydd fod 4 modfedd o law wedi disgyn mewn rhannau o Gymru dros 24 awr.
Fe wnaeth y gwasanaethau achub ymateb i bobl yn sownd yn eu ceir gan gynnwys cludo rhai mewn cychod lawr strydoedd yn Sir Fynwy ac yn Nhrefyclawdd, Powys.
Does dim trenau yn rhedeg rhwng Henffordd a'r Fenni ac mae disgwyl i'r lein fod ar gau tan 4 Tachwedd yn ôl Network Rail.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn gwerthfawrogi pa mor drafferthus bydd cau lein y Mers, byddwn yn gweithio mor gyflym ac sy'n bosibl i gael popeth yn gweithio unwaith eto."
Mae llifogydd hefyd wedi cau'r rheilffordd rhwng yr Amwythig a'r Trallwng gyda Trafnidiaeth Cymru yn ysgogi pobl i edrych ar lwybr eu taith cyn teithio.