Dim digon o ASau yn cefnogi cynnig Johnson am etholiad

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Boris Johnson wedi methu â sicrhau digon o gefnogaeth yn Nhŷ'r Cyffredin i alw etholiad cyffredinol ar gyfer 12 Rhagfyr.

Fe wnaeth 299 o ASau bleidleisio o blaid y cynnig, gyda 70 yn erbyn, ond doedd hynny ddim yn ddigon i gyrraedd y trothwy o ddau draean oedd ei angen i gael etholiad cynnar.

Pleidleisiodd y Ceidwadwyr o blaid y cynnig, ond roedd y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP a Phlaid Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ei wrthwynebu.

Fe wnaeth y rhan fwyaf o ASau Llafur ymatal ar y bleidlais, gan olygu nad oedd modd iddo gael ei basio.

Yn dilyn y canlyniad, dyweddodd y prif weinidog y byddai'n ceisio cyflwyno mesur byr i geisio cael yr etholiad - mesur fyddai ond angen cefnogaeth mwyafrif syml.

Cynnig arall

Roedd angen cefnogaeth 434 o ASau er mwyn galw etholiad cynnar dan y Ddeddf Seneddau Tymor Penodol.

Yn dilyn y bleidlais, dywedodd Mr Johnson bod angen etholiad er mwyn cael "Senedd newydd fyddai'n sicrhau bod Brexit yn digwydd", gan gyhuddo'r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn o "redeg i ffwrdd".

Ond mynnodd Mr Corbyn na fyddai Llafur yn cefnogi etholiad cyffredinol oni bai bod Brexit heb gytundeb yn cael ei "gymryd oddi ar y bwrdd".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r SNP wedi cyflwyno eu cynnig eu hunain yn galw am etholiad cyffredinol ar 9 Rhagfyr, fyddai'n golygu nad oedd gan Mr Johnson amser i basio ei fesur Brexit.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Llafur ymatal rhag pleidleisio ar y cynnig

Yn gynharach ddydd Llun fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd Gytuno mewn egwyddor i ohirio dyddiad Brexit tan 31 Ionawr 2020.

Ychwanegodd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk fod y dyddiad yn hyblyg sy'n golygu y gallai'r DU adael yr UE yn gynt petai ASau yn rhoi sêl bendith i gytundeb Brexit.

Cafodd hynny ei groesawu gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a ddywedodd y dylai'r amser nawr gael ei ddefnyddio i gynnal refferendwm arall ar adael yr Undeb Ewropeaidd ai peidio.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, ategu'r alwad honno gan ddweud na fyddai etholiad arall yn "datrys argyfwng Brexit".

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds ei bod eisiau gweld etholiad ar 9 Rhagfyr, ac y dylai'r prif weinidog sicrhau bod Brexit heb gytundeb ddim bellach yn opsiwn.