Gwobr aur i raglen chwaraeon gorsaf gymunedol MônFM

  • Cyhoeddwyd
MônFMFfynhonnell y llun, MônMF

Mae gorsaf radio yng ngogledd Cymru'n dathlu ar ôl cael ei henwi'n rhaglen chwaraeon orau'r flwyddyn drwy'r DU ar orsaf radio cymunedol.

Rhaglen chwaraeon MônFM, sy'n darlledu ar draws Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru, ddaeth i'r brig yn seremoni wobrwyo Radio Cymunedol y DU yn Y Barri.

Dywedodd Pennaeth Newyddion a Chwaraeon yr orsaf, Gareth Joy: "Rydym wedi gweithio'n galed er mwyn datblygu gwasanaeth chwaraeon o ansawdd uchel ar gyfer gogledd orllewin Cymru."

Roedd yr orsaf hefyd ar y rhestr fer yn y categori Iaith Lafar a Newyddiaduriaeth y Flwyddyn am ei hymdriniaeth o'r penderfyniad i ohirio cynllun Wylfa Newydd, ac am wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn.

Dyma oedd y tro cyntaf i'r seremoni wobrwyo gael ei chynnal yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, MônFM
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Joy yw Pennaeth Newyddion a Chwaraeon MônFM

Mae rhaglen chwaraeon MônFM ymlaen pob prynhawn Sadwrn am dair awr gan ddod â darllediadau byw o brif gemau pêl-droed lleol yr ardal.

Fe ddarlledodd yr orsaf raglen nosweithiol i gyd-fynd â chynnal twrnament pêl-droed Gemau'r Ynysoedd ym Môn, gyda sylwebaeth lawn o gemau'r timau dynion a merched yng Nghaergybi, Llangefni, Amlwch a Gwalchmai.

Dywedodd Tony Wyn Jones, cadeirydd gweithredol yr orsaf: "Rydym yn falch iawn o lwyddiant Chwaraeon MônFM.

"Fe ddywedwyd ein bod yn rhy uchelgeisiol ar gychwyn yr orsaf, yn ceisio cyflawni Darlledu o'r Maes yn ein cymuned.

"Rydym eisoes wedi cyflawni hyn ac yn benderfynol o barhau'r gwaith arbennig yma drwy fod allan a chael ein gweld a'n clywed oddi fewn ein hardal darlledu."