Môn i groesawu pêl-droedwyr Gemau'r Ynysoedd 2019

  • Cyhoeddwyd
Dynion yn cicio pel

Mae tîm Ynys Môn ar gyfer Gemau'r Ynysoedd yn gobeithio y bydd cynnal twrnament pêl-droed ar yr ynys yn helpu eu cais i ddod â'r gemau i Gymru am y tro cyntaf yn 2025.

Môn fydd yn cynnal twrnament pêl-droed Gemau'r Ynysoedd 2019 - y tro cyntaf erioed i gystadleuaeth o'r fath ddigwydd ar yr ynys.

Bydd 16 o dimau dynion a chwech o dimau merched yn ymweld â'r ynys dros yr wythnos.

Mae'r gemau yn cael eu cynnal pob dwy flynedd rhwng 24 ynys sydd â phoblogaeth o lai na 150,000.

Bydd Gemau'r Ynysoedd yn cael eu cynnal yn Gibraltar eleni.

Does gan Gibraltar ddim digon o gaeau i gynnal y twrnament pêl-droed, felly fe ofynnwyd i Ynys Môn gamu i'r adwy er mwyn ei gynnal.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Jamie Thomas ei bod yn gyfle "arbennig" i'r ynys wrth iddyn nhw ymgyrchu i ddenu'r gemau o fewn chwe blynedd.

"Bydd yn gyfle i ni ddangos be 'da ni'n gallu 'neud. Mae gennym ni frwdfrydedd mawr ar yr ynys," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jamie Thomas ei fod yn gobeithio y bydd y gemau'n cael "effaith hirdymor" ar yr ynys

Maen nhw hefyd yn gobeithio sefydlu academi bêl-droed ar yr ynys yn y dyfodol agos.

"Rydyn ni eisiau ysbrydoli'r ynys, a gyda gobaith y gwnawn ni annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y gemau yn y dyfodol," meddai Mr Thomas.

Mae 2019 yn nodi 20 mlynedd ers i'r Fôn ennill medal aur yn y gemau, felly efelychu'r llwyddiant ydy'r bwriad wrth iddyn nhw chwarae gartref am y tro cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Laura Eynon ei bod yn benderfynol o wneud argraff yn ystod y gemau

Laura Eynon yw capten tîm merched yr ynys, sydd hefyd yn cynnwys Nicky Davies, cyn-golwr Cymru.

"Hwn ydi'r garfan gryfaf 'da ni erioed wedi ei gael. Mae gennym ni mix da o hen betha' fel fi, a thalent newydd," meddai.

"Rydyn ni'n hyderus ac yn edrych ymlaen at ddechrau."

Bydd y gemau yn cael eu hagor yn swyddogol nos Sadwrn, 15 Mehefin, lle bydd eu llysgennad a chyn-aelod o dîm Môn, Osian Roberts yn croesawu'r cystadleuwyr.