Y Bencampwriaeth: Wigan 1-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi trechu Wigan oddi cartref ac am gyfnod ddydd Sadwrn roedd yr Elyrch ar frig y gynghrair.
Roedd yna ddechrau rhagorol i'r gêm - ar ôl deuddeg munud fe groesodd Bersant Celina'r bêl yn isel at Nathan Dyer oedd wedi ei adael yn rhydd gan amddiffynwyr Wigan a chydag ergyd troed chwith roedd y bêl yng nghornel y rhwyd.
Roedd Abertawe yn cadw'r meddiant yn gyson ar ôl hynny ac er i Celina roi'r bêl yn aml yn y blwch cosbi roedd amddiffyn Wigan yn gadarn.
Ond wrth gystadlu am gic gornel i Wigan fe dynnodd van der Hoorn grys Dunkley ac fe bwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn a chydag ergyd i ganol y gôl fe unionodd Kieffer Moore y sgôr.
Cyfartal oedd hi wedyn gyda'r ddau dîm yn chwarae'n dda i sicrhau tri phwynt.
Roedd Wigan yn chwarae'n well yn yr ail hanner, ac yn pwyso'n aml ar Abertawe.
Yn yr amser ychwanegol fe ddaeth ymosodiad chwim gan Abertawe wrth i Naughton gipio'r bêl - daeth y bêl at draed Conor Roberts ar yr asgell a'r croesiad at Sam Surridge ac fe beniodd yntau y bel i rwyd Wigan.
Yr Elyrch yn ennill felly o ddwy gôl i un ac am gyfnod roedd Abertawe ar frig y gynghrair ond wedi i bawb chwarae ddydd Sadwrn Leeds sydd ar y brig ac Abertawe yn ail.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2019