Teyrngedau i Paul Turner - cyfarwyddwr ffilm Hedd Wyn
- Cyhoeddwyd
Yn 73 oed bu farw Paul Turner - cyfarwyddwr y ffilm Hedd Wyn a gafodd ei henwebu am Oscar yn 1994.
Cafodd Paul Turner ei eni yn Nyfnaint a symudodd i Gymru yn y 70au.
Dysgodd Gymraeg tra'n gweithio i'r BBC.
Er iddo ddod i'r amlwg am ei waith yn cyfarwyddo y ffilm Hedd Wyn bu'n cyfarwyddo nifer o raglenni a ffilmiau eraill nodedig - yn eu plith Porc Pei a The Life and Times of David Lloyd George (1981).
Yn ôl Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilmiau Iris, daeth yr enwebiad Oscar â byd ffilm Cymru i sylw'r byd.
Dywedodd bod creu ffilm yn ei hun yn dipyn o wyrth ond bod creu ffilm a gafodd ei gweld mewn sinemâu yn fwy o wyrth.
'Tân yn ei fol dros Gymru a'r Gymraeg'
Wrth ei gofio dywedodd Amanda Rees, Comisiynydd Cynnwys S4C: "Roedd cyfraniad Paul Turner i ffilm a theledu Cymru yn aruthrol, ac yntau wrth galon llawer o ddramâu llwyddiannus S4C yn y dyddiau cynnar.
"Rydym yn cofio yn arbennig am y ffilm Hedd Wyn a sut lwyddodd Paul i roi Cymru ar lwyfan y byd drwy adrodd stori unigryw Gymreig ond efo adlais rhyngwladol.
"Byddwn yn cofio amdano fel gŵr â gweledigaeth a thân yn ei fol dros Gymru a'r Gymraeg a'r ysfa i ddarlunio hynny ar ffilm."
Yn 1981 cynhyrchodd Paul Turner ei waith annibynnol cyntaf sef Trisgel - rhamant di-ddeialog.
Yn nyddiau cynnar S4C sefydlodd y cwmni cynhyrchu Teliesyn ar y cyd â Colin Thomas a dyma'r cwmni a gynhyrchodd y ddrama Chwedlau Serch yn ogystal â'r gyfres Saesneg a Chymraeg Arswyd y Byd.
Fe hefyd a gyfarwyddodd y dramâu Wil Six, Tra Bo Dwy a Dihirod Dyfed ac wedi iddo gyfarwyddo Hedd Wyn fe gyfarwyddodd y ffilmiau Cwm Hyfryd, Dial a Porc Pei - ffilm a gafodd ei throi i gyfres ddrama ar S4C.
Hedd Wyn oedd y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am Oscar a hynny am y ffilm iaith dramor orau. Mae'r ffilm hefyd wedi ennill nifer iawn o wobrau rhyngwladol.