Tân wedi'i ddiffodd ar safle hen ysgol yn sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Tân

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi diffodd tân mewn adeilad hen ysgol yn sir Conwy.

Cafodd diffoddwyr eu galw toc wedi 19:00 nos Lun i dân ar safle hen ysgol Nant y Coed ar heol Ronald, Cyffordd Llandudno.

Roedd y tân y tu mewn i'r adeilad sydd wedi bod yn wag ers i'r ysgol gau yn 2016.

Fe wnaeth yr ysgol uno gydag Ysgol Gynradd Maelgwn o'r un dref, a symud i adeilad newydd sbon gwerth £11.5m o'r enw Ysgol Awel y Mynydd.