Dynes wedi gorfod 'crefu' am gyflog gan bapur newydd

  • Cyhoeddwyd
Thomas Sinclair
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Thomas Sinclair addo defnyddio £1.5m o fuddsoddiad newydd i ad-dalu rhai o gyn-aelodau o staff

Mae dynes oedd yn disgwyl am filoedd o bunnoedd gan bapur newydd wedi dweud ei bod wedi gorfod "crefu" am ei harian.

Mae cyn-weithiwr o'r Pembrokshire Herald wedi dweud ei bod wedi dioddef yn ariannol ac yn teimlo dan straen.

Ym mis Mawrth fe wnaeth golygydd y papur, Thomas Sinclair addo defnyddio £1.5m o fuddsoddiad newydd i ad-dalu rhai o gyn-aelodau o staff, ond fe gaeodd rhan o'r busnes fis diwethaf.

Mae Mr Sinclair wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod dal yn bwriadu talu'r rheiny sydd arno arian iddyn nhw.

Dim cyflog

Fe wnaeth y ddynes ddechrau ei gyrfa newyddiadurol gyda'r Herald yn 2016, a dywedodd fod y tâl achlysurol gan y cwmni wedi arwain iddi gael trafferthion ariannol ac wedi effeithio ei hiechyd meddwl.

Dywedodd fod problemau yn cael ei thalu gan Mr Sinclair wedi dechrau yn fuan wedi iddi ddechrau gweithio yn "swydd ei breuddwydion".

"Ar ôl ychydig fisoedd, roedd pethau dan straen ac yn cael effaith arna i," meddai'r ddynes, sydd eisiau aros yn anhysbys.

"Doeddwn i ddim yn derbyn fy nghyflog. Roedd yn rhaid i mi grefu, a gofyn iddyn nhw drwy'r adeg.

"Doeddwn i ddim yn gwybod pryd y byddwn yn derbyn fy nhâl nesaf a sut yr oeddwn am dalu fy miliau."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgrifiodd y ddynes ei gwaith yn y Pembrokshire Herald fel "swydd ei breuddwydion"

Mae e-byst rhwng Mr Sinclair a'r ddynes yn dangos ei bod wedi derbyn sawl cadarnhad y byddai'n cael ei thalu, ond mae £3,000 yn dal yn ddyledus iddi.

Ar ôl gadael y cwmni mae wedi cyflogi beili i geisio cael yr arian yn ôl.

Daw cwyn y ddynes wedi i aelodau eraill o staff gwyno ym Mawrth 2019.

Bryd hynny fe wnaeth Mr Sinclair gyfaddef ei fod wedi bod yn "ddyn busnes gwael" a'i fod wedi addo talu cyn-aelod o staff o fewn chwe mis.

'Ffidil yn y to'

Mae ymchwil gan BBC Cymru fewn i benderfyniadau barnwrol sy'n ymwneud a chwmnïau mae Mr Sinclair a'r Herald wedi bod yn gysylltiedig â nhw yn dangos ei fod wedi mynd i ddyled o £70,000.

Ar y pryd, dywedodd ei fod wedi sicrhau buddsoddiad o £1.5m gan fuddsoddwr o Oman.

Ym mis Hydref fe wnaeth y grŵp gyhoeddi fod dwy o dair cangen y papur newydd yn cau - y Carmarthenshire Herald a'r Llanelli Herald - ond bod buddsoddiad o Sbaen wedi sicrhau fod fersiwn print o'r Pembrokshire Herald yn gallu parhau ynghyd â gwefannau newyddion y grŵp.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alan Evans yn dal i ddisgwyl am £6,500 sy'n ddyledus iddo

Mae Alan Evans, sydd bellach yn olygydd ar y Llanelli Star a Wales News Online ond oedd yn arfer gweithio'n llawrydd i'r Herald, yn dweud ei fod yn disgwyl taliad o £6,500 er gwaethaf gorchymyn llys yn erbyn y cwmni i'w dalu.

"Nid wyf wedi cael unrhyw gysylltiad gan Thomas Sinclair. Rydym bron a rhoi'r ffidil yn y to ar yr holl beth," meddai.

Mae Mr Sinclair wedi dweud wrth BBC Cymru fod "nifer o broblemau" wedi bod.

"Doedden ni methu a chael yr holl fuddsoddiad yr oeddem yn disgwyl," meddai.

Dywedodd ei fod wedi talu "swm sylweddol i staff oedd yn disgwyl am arian" ond fod "ychydig ar ôl sydd angen ei sortio".

Ychwanegodd ei fod yn "100% hyderus" y byddai pawb sy'n disgwyl am arian yn cael eu talu, nawr fod "mwy o siawns i'r busnes wneud elw".