2,000 o ymosodiadau ar weithwyr 999 ers cosbau llymach

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae ffigyrau'n dangos bod bron i 2,000 o ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys wedi cael eu cofnodi - flwyddyn ers cyflwyno cosbau llymach am droseddau o'r fath.

Cafodd y ddedfryd uchaf bosib ei dyblu - o chwe mis i 12 mis o garchar - am ymosod ar swyddogion heddlu, carchar, gwarchodaeth a phrawf, swyddogion tân, gweithwyr chwilio ac achub, a rhai staff iechyd gan gynnwys gweithwyr ambiwlans.

Roedd hefyd yn gorfodi barnwyr i ystyried dedfrydau llymach yn achos nifer o droseddau eraill - gan gynnwys achosi niwed corfforol difrifol ac ymosodiadau rhyw - pan fo'r dioddefwr yn gweithio i un o'r gwasanaethau brys.

Yn ôl Heddlu Gwent, po fwyaf y mae'r ddeddfwriaeth mewn bodolaeth fe fydd yna newid i'r diwylliant o fewn cymdeithas.

'Iechyd meddwl swyddogion'

"Dyw e ddim yn achos o bryd neu os wneith e ddigwydd, rwyf jest wedi derbyn y bydd y pethau 'ma'n digwydd i mi," meddai'r Cwnstabl Vinny Mair o Heddlu Gwent, sydd wedi dioddef sawl ymosodiad tra ar ddyletswydd.

Yn yr achos cyntaf, yn ei 10fed shifft, roedd wedi stopio car ac yn meddwl bod y gyrrwr yn estyn am arf.

"Wrth imi bwyso ymlaen i geisio ei stopio fe yrrodd y car am yn ôl â minnau dal ynddo," meddai, "Bagiodd yn syth i wal. Wnes i daro to'r car a dod mas 'to.

Yn fwy diweddar, cafodd ei benio yn ei dalcen gan ddyn roedd yn ei hebrwng i gerbyd heddlu, a'i gicio gan fenyw oedd yn cael ei harestio gan gydweithiwr.

"Fe giciodd ochr fy mhen-glin, wnaeth achosi cryn dipyn o boen."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau hefyd yn cynnwys rhai o staff iechyd gan gynnwys gweithwyr ambiwlans

Dywed Cwnstabl Mair nad yw'n bosib dweud fod deddfwriaeth newydd y llynedd yn amddiffyn swyddogion brys "yn gyfan gwbl" oherwydd "os mae pobl eisiau ymosod arnoch chi, fe wnân nhw hynny."

Mae'n dweud bod ymosodiadau'n digwydd mor aml nes ei fod yn "derbyn y bydd yn digwydd" ac yn canolbwyntio ar "delio â'r peth, gobeithio, yn well" a "bod yna i helpu pobl".

Ond mae'n rhybuddio gall y sefyllfa effeithio ar iechyd meddwl swyddogion.

"Dynol ydyn ni, dim ond hyn a hyn allwch chi gymryd, ond mae'n rhaid i chi ymdopi."

Mae ffigyrau pedwar llu heddlu Cymru'n rhoi darlun o'r sefyllfa ers cyflwyno'r cosbau llymach.

Roedd y nifer uchaf o achosion yn ardal Heddlu'r De - 868 hyd at 5 Tachwedd eleni, a 582 ers i'r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym. Dywed y llu eu bod wedi erlyn rhywun mewn tua 62% o'r achosion.

Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, mae 256 o ymosodiadau ar swyddogion brys wedi'u cofnodi ers dechrau'r drefn newydd. Roedd 225 o'r ymosodiadau ar swyddogion heddlu.

Fe gofnododd Heddlu'r Gogledd 494 o droseddau yn erbyn staff y gwasanaethau brys yn y 12 mis dan sylw.

Dywed Heddlu Gwent bod yna 287 o ymosodiadau ar swyddogion heddlu rhwng Ionawr a diwedd Hydref eleni.

Mae Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Gwent, Jon Edwards yn credu bod annog swyddogion i beidio â chadw'n dawel wedi ymosodiad arnyn nhw yn gwneud gwahaniaeth i nifer yr achosion sy'n cael eu cofnodi.

"Rydym wedi buddsoddi'n drwm mewn camau iechyd a lles... ac rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau triniaeth dda i staff sy'n dioddef ymosodiad ar ddyletswydd," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn croesawu'r ddeddfwriaeth newydd, ac yn credu ei bod yn rhwystro rhai ymosodiadau.