Etholiad 2019: 'Yn bendant etholiad Brexit fydd hyn'

  • Cyhoeddwyd

Os oes yna un pwnc sy'n hawlio sylw pawb yn yr etholiad yma, Brexit yw hwnnw.

Anghytuno yn Nhŷ'r Cyffredin ar y pwnc yma sy' wedi arwain at gynnal y bleidlais.

Ond ar lawr gwlad beth yw'r farn? A pha mor bwysig yw gadael yr Undeb Ewropeaidd i bleidleiswyr?

'Gadael pobl mewn limbo'

Mae Graham Adams o Dycroes ger Rhydaman wedi hen flino ar yr oedi a'r cecru. Roedd o blaid aros, ond erbyn hyn mae am weld Brexit yn digwydd er mwyn dod â'r ansicrwydd i ben.

"Pleidleisio i aros 'nes i yn y bleidlais Brexit gyntaf, o'n i yn eitha' hapus i fod yn rhan o bopeth o'n i yn gyfarwydd â fe," meddai.

"Erbyn hyn fi dal moyn aros, ond gan bod tair blynedd wedi mynd a'r penderfyniad oedd i adael, fi'n teimlo nawr dyle ni symud 'mlaen a gadael.

"Ar ôl y bleidlais gynta' bydde ni di bod yn hapus i gael refferendwm arall i weld a oedd pobl wedi newid eu meddwl, ond nawr ar ôl tair blynedd ma' ishe symud 'mlaen a gadael.

"Mae'n mynd i ddigwydd, felly 'run man bo' ni jyst yn mynd trwyddo yn hytrach na bod amser yn dal i fynd 'mlaen a gadael pobl mewn bach o limbo."

Ai etholiad yw'r ateb?

"Roedd clywed am etholiad yn sioc… ddim yn disgwyl hynna," meddai.

"Ond, yn bendant etholiad Brexit fydd hyn a bydd e i gyd lawr i be' sy' gan bobl i ddweud am bwyti Brexit."

'Pobl wedi cael llond bol'

Mae Peter Gilbey o Ystradgynlais yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae wedi ymgyrchu o'r dechrau'n deg yn erbyn Brexit a dyw e ddim wedi newid ei feddwl. Mae'n bendant iawn bod rhaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

"I fod yn onest fi yn eitha' depressed i weld bod etholiad arall yn dod. Y peth fi yn ffindo fwya' diflas yw sut i ni yn pleidleisio mewn etholiad i San Steffan.

"Dyw y system ddim yn ddemocrataidd iawn, dyw 'first past the post' ddim yn safon digon uchel ar gyfer democratiaeth."

"Mae'n anodd gweld refferendwm arall yn digwydd… os bydd senedd grog, wel efallai wedyn, ond mae'n anodd dweud.

"Fi yn credu bod pobl wedi cael llond bol o be' sy' mynd mlaen, ond mae pobl wedi cael llond bol o bleidleisio hefyd."

Ni chafodd sioc o glywed y byddai etholiad: "Ers cafodd Theresa May ei threchu am y trydydd tro, 'nes i feddwl efallai bydd refferendwm, ond collodd hi lot o bŵer ar ôl hynny ac yn gyflym wedyn weles i bod dim siawns iddi gario mlaen.

"O weld hynna a gweld bod arweinydd newydd i'r Ceidwadwyr, o'n i yn gwbod bydde etholiad cyn bo hir."

'Llanast llwyr'

Barn wahanol iawn sy' gan Deiniol Carter, sydd o Gernyw ond nawr yn gweithio yng Nghaerdydd.

Mae e â'i fryd ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae'n dweud bod "llanast llwyr ar y funud".

"Dydy e ddim yn amlwg be' fydd yn digwydd. Ond, rwy dal o blaid Brexit, heb newid fy meddwl o gwbl.

"Gobeithio bydd Brexit yn digwydd oherwydd mai dyna oedd canlyniad y refferendwm, felly rwy'n disgwyl bydd Brexit yn digwydd ond ddim yn hollol sicr."

Er hynny, mae Deiniol o blaid refferendwm ar y cytundeb neu adael geb gytundeb: "Efallai erbyn hyn mae angen gofyn hynny i bobl.

"Ond dwi ddim ishe gweld y refferendwm jyst yn dro pedol am y tair blynedd ddiwetha' achos roedd y canlyniad yn glir. Roedd e'n agos rwy'n gwybod, ond yn glir."

"Mae tri etholiad wedi bod mewn tair blynedd... mae rhai o fy ffrindiau 'di dweud bod nhw ddim yn sicr a fyddan nhw yn pleidleisio ai peidio oherwydd eu bod nhw wedi cael llond bol, a dy' nhw ddim yn siŵr a fydd etholiad neu refferendwm arall yn ateb y broblem.

"Efallai bod pobl jyst ishe symud ymlaen."