Bysiau rhwng Caerfyrddin ac Aberdaugleddau am bum wythnos

  • Cyhoeddwyd
Heol ClarbestonFfynhonnell y llun, Google

Ni fydd trenau'n rhedeg am bum wythnos mewn rhan o orllewin Cymru wrth i waith cynnal a chadw gael ei gwblhau.

Bydd y rheilffordd ynghau rhwng gorsafoedd Heol Clarbeston ac Aberdaugleddau rhwng 18 Tachwedd a 22 Rhagfyr.

Bydd gwasanaeth bws yn rhedeg rhwng gorsafoedd Caerfyrddin ac Aberdaugleddau yn ystod y cyfnod.

Dywedodd Network Rail y bydd gweithwyr yn torri coed a llystyfiant er mwyn sicrhau bod trenau'n gallu rhedeg yn ddiogel.

Mae teithwyr yn cael eu hannog i chwilio am y manylion diweddaraf ar wefan National Rail, dolen allanol cyn teithio.

Dywedodd Bethan Jelfs o Drafnidiaeth Cymru y byddai'n "gweithio'n agos gyda Network Rail i leihau'r effaith", gan ddiolch i deithwyr am eu "hamynedd a dealltwriaeth".