Amgueddfa'r dyfodol yn addo golwg unigryw ar y corff

  • Cyhoeddwyd
Ars Electronica Center's Deep Space 8K.Ffynhonnell y llun, Ars Electronica/Robert Bauernhansl
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dechnoleg Deep Space mewn ystafell anferthol yng nghanolfan Ars Electronica yn Awstria yn caniatáu ffordd wahanol o astudio'r corff dynol

Gall BBC Cymru ddatgelu manylion amgueddfa arloesol newydd sy'n gobeithio agor ym Mae Caerdydd yn 2022.

Mae'r Amgueddfa Feddygaeth Filwrol yn cofnodi cyfraniadau aruthrol meddygon a nyrsys yn ystod rhyfeloedd ac yn esbonio sut mae gwrthdaro wedi arwain at rai o'r datblygiadau pwysicaf yn hanes meddygaeth.

Ond mae'n fwriad i greu canolfan mwy uchelgeisiol sydd hefyd yn edrych ar ddatblygiadau'r dyfodol gyda chynlluniau gwerth £30m i ail-leoli'r amgueddfa o farics ger Aldershot i dde Cymru.

Mae disgwyl penderfyniad yn gynnar yn y flwyddyn newydd ynghylch cais cynllunio i godi canolfan pedwar llawr ger yr Eglwys Norwyaidd.

Ffynhonnell y llun, Ars Electronica Center/Florian Voggeneder
Disgrifiad o’r llun,

Gwers anatomeg yn yr ystafell Deep Space yn Linz

Dywedodd cyfarwyddwr yr amgueddfa, Jason Semens bod yna obaith y bydd cyflwyno hanes "meddyginiaeth chwyldroadol ac esblygiadol" yn ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn meddyginiaeth a gofal iechyd.

"Yr hyn efallai nad yw llawer o bobl yn sylweddoli yw bod llawer o'r datblygiadau chwyldroadol hyn ym maes meddygaeth wedi bod yn fuddiol i'r boblogaeth ehangach," meddai.

Mae'r datblygiadau hynny'n cynnwys Pelydr-x, dulliau o drosglwyddo gwaed, brechiadau newydd a thechnegau llawfeddygol arloesol i achub bywydau.

Ffynhonnell y llun, SONNLEITNER/Michael König
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arddangosfa yma yn Ars Electronica yn rhoi golwg manwl iawn ar rym yr haul

Er mwyn datblygu syniadau i gyflwyno technolegau'r dyfodol, aeth cynrychiolwyr yr amgueddfa i ddinas Linz yn Awstria - ac yn benodol i ganolfan Ars Electronica, sy'n cael ei adnabod fel "amgueddfa'r dyfodol".

Mae'n ganolfan eithriadol sy'n cynnwys ystafell anferthol - yr unig le drwy'r byd lle gall ymwelwyr weld a chysylltu'n rhyngweithiol â delweddau 3-D sy'n cael eu taflunio ar y waliau a'r llawr.

Gall ymwelwyr deimlo fel eu bod yn cerdded ar garped hud, eistedd ar yr haul, hedfan dros byramidiau, gwibio i bellfannau'r bydysawd neu gymryd rhan mewn gemau cyfrifiadurol rhithwir.

Mae modd hefyd syllu'n ddwfn y tu mewn i gorff dynol.

Disgrifiad o’r llun,

Sesiwn technoleg Deep Space ar gyfer myfyrwyr meddygol yn Linz

"Mae'r dechnoleg yma yn hyblyg iawn," meddai cyfarwyddwr artistig ARS Electronica, Gerfried Stocker.

"Mae modd creu cyflwyniadau am hanes celf, arddangosfeydd archeolegol a gwyddonol, teithio i'r gofod ac, wrth gwrs, fynd i berfeddion y corff dynol - yn debyg iawn i'r hen ffilmiau ffuglen wyddonol lle maen nhw'n teithio mewn llong danfor fach trwy'r corff."

Ond nid atyniad i dwristiaid yn unig yw'r ystafell. Mae'n cael ei defnyddio hefyd fel stafell ddarlithio i fyfyrwyr meddygol y brifysgol.

Gall llawfeddygon hefyd ddod i ymarfer llawdriniaethau drwy allu cerdded drwy ddelweddau o gyrff ac organau eu cleifion.

Ffynhonnell y llun, Scott Brownrigg
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r amgueddfa ym Mae Caerdydd - os fydd y cynllun yn cael caniatâd cynllunio

Wrth ddangos y dechnoleg i ni, esboniodd pennaeth Ars Electronica, Andreas Bauer, bod modd gweld y corff mewn mwy o fanylder nag erioed o'r blaen.

"Y gwahaniaeth mawr yw ein bod ni'n edrych ar fodau dynol go iawn," meddai. "Nid model yw hyn, ond data person byw."

Yn ôl y gwleidydd lleol, Doris Lang-Mayerhofer, mae'r ganolfan wedi helpu rhoi dinas gymharol ddi-nod ar y map yn rhyngwladol.

"Yn ogystal â'r celf, gwyddoniaeth a chymdeithas, mae'n gwahodd pobl i feddwl y tu allan i'r bocs. Mae'n edrych nid yn unig ar y dechnoleg ond yr effaith ar fywydau a'r natur ddynol."

Ffynhonnell y llun, Scott Brownrigg
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad i godi'r amgueddfa ar dir ger yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd

Os bydd y cais cynllunio'n cael ei gymeradwyo, y gobaith yw dechrau ar y gwaith adeiladu yn gynnar yn 2021 ac agor yr amgueddfa cyn diwedd 2022.

Dywed rheolwyr eu bod yn mynd ati i sicrhau'r arian ar gyfer y cynllun, sy'n cynnwys grantiau a buddsoddiadau, ond bod dim bwriad gofyn am arian cyhoeddus.