9,700 o blant wedi'u stopio a'u chwilio gan yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
CyllellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y mwyafrif o'r rheiny gafodd eu stopio yn cael eu hamau o fod â chyllyll neu gyffuriau

Mae plant mor ifanc â saith oed ymysg y miloedd sydd wedi cael eu stopio a'u chwilio gan yr heddlu yn y blynyddoedd diwethaf.

Ers 2015 mae bron i 10,000 o blant wedi cael eu chwilio gan swyddogion, gyda llai na 10% yn cael eu harestio.

Cafodd un plentyn eu stopio ar amheuaeth o fod â gwn, ac fe wnaeth swyddogion saethu plentyn 15 oed oedd yn cario cyllell gyda gwn Taser.

Dywedodd yr heddlu bod nifer yr achosion o stopio plant wedi cynyddu oherwydd bod mwy o blismyn ar y strydoedd i fynd i'r afael â throseddau treisgar.

Mae hawl yr heddlu i stopio a chwilio pobl yn un dadleuol, ond mae lluoedd Cymru'n dweud ei fod yn bwysig er mwyn diogelu cymunedau ac atal troseddu.

Cynnydd 56%

Mae ffigyrau ddaeth i'r BBC trwy gais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod cynnydd wedi bod yn nifer y plant gafodd eu stopio yng Nghymru'r llynedd.

Yn ardal Heddlu De Cymru cafodd 1,978 o blant eu chwilio rhwng Mawrth 2018 a 2019, cynnydd 56% o'i gymharu â'r 1,265 y flwyddyn flaenorol.

Yng Ngwent fe wnaeth nifer y bobl ifanc dan 18 oes gafodd eu stopio fwy na dyblu yn yr un cyfnod, o 201 i 410.

Yn y ddwy ardal fe wnaeth nifer y bobl gafodd eu harestio o ganlyniad i'r archwiliadau ostwng.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth heddwas yng Ngwent saethu plentyn 15 oed oedd yn cario cyllell gyda gwn Taser

Mae ffigyrau'n dangos bod 9,700 o blant wedi cael eu stopio a'u chwilio gan yr heddlu yng Nghymru rhwng 2015 a Mawrth eleni.

Ond dim ond 9% o'r achosion yma wnaeth arwain at berson ifanc yn cael eu harestio.

Amau o fod â chyffuriau

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru stopio plentyn ar amheuaeth o fod â gwn ond ni chafodd ei arestio.

Yn y gogledd y prif reswm dros chwilio pobl oedd am eu bod yn cael eu hamau o fod â chyffuriau - gyda 167 o'r 274 o blant gafodd eu stopio yn cael eu hamau o hynny.

Yn ardal Dyfed Powys cafodd 562 o blant eu chwilio, ond ni chafodd yr un ei arestio - gyda'r mwyafrif yn cael eu hamau o fod â chyffuriau yn eu meddiant.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod Heddlu Gwent wedi pwyntio gwn Taser at blentyn 13 oed oedd wedi bygwth heddweision ag arf, ac fe wnaethon nhw saethu Taser at blentyn 15 oed oedd yn cario cyllell.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y cynnydd yn nifer yr achosion o ganlyniad i fwy o weithredu gan y llu i fynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyffuriau a chyllyll.

Ychwanegodd Heddlu Gwent eu bod yn addysgu plant am y peryglon o gario cyllyll, yn ogystal â thargedu'r rheiny sydd o bosib yn eu cario'n gyhoeddus.

Mae lluoedd Gogledd Cymru a Dyfed Powys wedi cael cais am sylw.