Canfod sgerbydau hanesyddol ar ochr clogwyn ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
SgerbwdFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i sgerbydau dynol ar ochr y clogwyn

Mae sgerbydau o leiaf chwech o bobl o'r gorffennol pell wedi cael eu darganfod ar arfordir Bro Morgannwg.

Mae archeolegwyr wedi darganfod yr olion o ganlyniad i erydu arfordirol wrth ymyl clogwyn yng Nghwm Nash.

Maen bosib eu bod nhw wedi bod yno ers llongddrylliad.

Yn ôl yr arbenigwr ar archeoleg y môr, yr Athro Jacqui Mulville o Brifysgol Caerdydd fe allai'r esgyrn eraill fod wedi cael eu colli yn y môr.

Ffynhonnell y llun, Cardiff University
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Athro Jacqui Mulville o Brifysgol Caerdydd fe allai'r esgyrn eraill fod wedi cael eu colli yn y môr.

Roedd gweddillion dynol sydd wedi cael eu darganfod ar y safle yn y gorffennol yn dyddio'n ôl i'r 16 ganrif.

Dywedodd yr Athro Mulville: Rydym yn credu mai dynion o oes y Tuduriaid neu'r Stiwardiaid oedd y rhain a fu farw yn ystod llongddrylliad.

"Rydym yn gobeithio darganfod rhagor am eu hanes wrth i ni ymchwilio ymhellach i'r darganfyddiadau," meddai.

Mae disgwyl dadansoddiad pellach o'r sgerbydau i ddigwydd y flwyddyn nesaf.