Technoleg wynebau: Dyn yn mynd â'i achos i'r Llys Apêl

  • Cyhoeddwyd
Ed BridgesFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ed Bridges o Gaerdydd yn honni fod ei hawliau dynol wedi cael eu torri

Mae ymgyrchydd hawliau dynol wnaeth wrthwynebu i'w lun gael ei dynnu gan gamerâu heddlu heb yn wybod iddo yn bwriadu cymryd ei achos i'r Llys Apêl.

Cafodd adolygiad barnwrol ei gynnal ym mis Mai eleni wedi i Ed Bridges o Gaerdydd honni fod ei hawliau dynol wedi cael eu torri pan gafodd ei lun ei dynnu wrth iddo wneud ei siopa Nadolig.

Ym mis Medi, dyfarnodd barnwyr yn yr her gyfreithiol i'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau (AFR) fod Heddlu De Cymru wedi defnyddio'r dechnoleg yn gyfreithlon.

Roedd y grŵp hawliau sifil, Liberty, yn cefnogi Mr Bridges gan ddadlau bod tynnu lluniau pobl mewn mannau cyhoeddus heb eu caniatâd gyfystyr â chymryd olion bysedd neu DNA heb eu caniatâd neu gydsyniad.

Ond mae'r barnwyr wedi dweud bod yr heddlu wedi defnyddio AFR ar adegau penodol ac roedd yr adegau hynny yn briodol.

Mae Heddlu'r De wedi bod yn treialu'r dechnoleg mewn digwyddiadau cyhoeddus ers 2017.

Dyma oedd y tro cyntaf i unrhyw lys yn y byd ystyried defnydd y dechnoleg.

'Anghyfiawn a gormesol'

Gan ganiatáu'r apêl, dywedodd yr Arglwydd Ustus Singh fod gan Mr Bridges "obaith gwirioneddol am lwyddiant" gan fod yr achos yn "codi materion o bwysigrwydd cyhoeddus a materion all effeithio nifer helaeth o bobl".

Dywedodd Mr Bridges: "Mae Heddlu De Cymru wedi parhau i ddefnyddio'r dechnoleg yma yn erbyn miloedd lawer o bobl, gan orfodi gwyliadwriaeth anghyfiawn a gormesol i bawb.

"Rwy'n falch y bydd pryderon difrifol cynifer ohonom yn cael eu clywed gan y Llys Apêl."

Mae'r faniau AFR wedi'u defnyddio ar 71 diwrnod mewn 39 o ddigwyddiadau.

Mae cyfanswm o 60 o bobl wedi'u harestio mewn lleoliadau yn amrywio o gyngherddau pop i brotestiadau yn ogystal â digwyddiadau chwaraeon mawr.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu De Cymru yn mynnu bod eu defnydd o'r dechnoleg yn gyfreithlon ac yn briodol

Heddlu De Cymru oedd y cyntaf yn y DU i arestio gan ddefnyddio'r dechnoleg, wrth i Gaerdydd groesawu 170,000 o bobl ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mai 2017.

Mae effeithiolrwydd a lefel cywirdeb y dechnoleg wedi cael ei feirniadu'n hallt yn y gorffennol.

Ond mae dirprwy brif gwnstabl Heddlu'r De, Richard Lewis wedi dweud bod cywirdeb y dechnoleg i adnabod pobl sy'n cerdded heibio wedi codi i tua 80%.

Y defnydd mwyaf diweddar o'r faniau AFR oedd pan chwaraeodd Abertawe a Chaerdydd yn Stadiwm Liberty ym mis Hydref.

Y lleoliad nesaf fydd gêm rygbi Cymru yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm Principality Caerdydd ar 30 Tachwedd.