Neges Shân Cothi ar ôl colli ei gŵr i ganser y pancreas

  • Cyhoeddwyd
Shan Cothi
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Shân Cothi ei bod wedi taflu ei hun i mewn i'w gwaith wedi colli ei gŵr, Justin

Mae hi'n fis codi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, clefyd sy' wedi newid byd y gyflwynwraig a'r gantores Shân Cothi. Bu farw ei gŵr, Justin Smith, yn 2007 ar ôl diagnosis gyda'r canser.

Ers colli Justin mae Shân wedi sefydlu elusen Amser Justin Time, gan godi dros £250,000 tuag at ymchwil i'r clefyd.

Bu Shân yn siarad â Cymru Fyw ynglŷn ag effaith y canser ar ei bywyd a beth sy'n ei chadw hi i fynd i godi arian tuag at y clefyd.

Mae canser y pancreas wedi newid bywyd fi. Bu farw Justin yn 2007 yn 42 oed. Pryd hynny o'n i ddim wedi clywed am canser y pancreas. 'Wi lot mwy ymwybodol nawr.

Be' sy' mor ddychrynllyd am y canser yw does 'na ddim gwella. Does 'na ddim cyffur sy'n gallu stopio'r tumours 'ma i dyfu. Ac mae'r pancreas reit yng nghanol dy gorff ac yn agos i'r prif organau ac mae'n lledaenu'n glou.

Fe barodd Justin flwyddyn ond oedd y symptomau bola tost wedi cychwyn yn Mehefin 2007.

Disgrifiad,

Shân Cothi yn trafod symptomau Canser y Pancreas

Galaru

O'dd e fel byw mewn bybl, ti'n edrych nôl a meddwl, sgwn i be' oedd pobl yn meddwl ohona'i ar y pryd? Nawr fi'n gallu gweld o'n nhw'n poeni amdana i.

Ti'n anghofio weithie am y gofalwr a'r bobl sy' ar ôl. Ac mae'n gadael ei ôl.

Nes i daflu fy hun mewn i bethe fel gwaith. O'n i fel ceit ambutu'r lle a dechreuais i rasio ceffyle. Dw i'n siŵr bod fy nheulu yn poeni'n ofnadwy. Brynais i geffyl, sef Caio, ac mae e dal gyda ni.

Ffynhonnell y llun, Shân Cothi
Disgrifiad o’r llun,

'Oedd cyfnodau heriol ond oedd ffrindie a teulu'n tynnu ti trwyddo - a'r ceffyl.'

Dwi'n ferch ffarm ac oedd rhaid cadw'n fishi. O'n i siŵr o fod yn edrych fel mod i ar rhyw gyffur ond unwaith o'n i'n mynd gartref oedd 'na gyfnodau tywyll yn hwyr yn y nos ar ben dy hun.

Oedd rheina'n gyfnodau heriol ond oedd ffrindie a teulu'n tynnu ti trwyddo - a'r ceffyl.

Amser sy'n lleddfu: ti'n edrych nôl ac maen edrych yn gyfnod diarth. Ond dyma yw taith bywyd a'r tonnau - y llanw a'r trai.

Cychwyn elusen

Mewn cyfnod fel 'na ti angen ffocws yn go glou. Pan mae pobl yn colli rhywun mae teulu a ffrindie ishe neud rhywbeth.

O'n i'n meddwl bydde elusen Amser Justin Time 'di bennu mewn rhyw bum mlynedd. Ond dw i'n teimlo nawr bod 'na do arall o bobl sy'n colli pobl i'r canser yma - maen nhw ishe ffocws ac maen nhw'n dod o hyd i ni.

Mae'n bwysig bod ni'n bodoli. Mae track record 'da gyda ni - mae'r arian ni'n codi yn mynd i ymchwil yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Ac mae'r cyfraniadau'n dod mewn o hyd - mae'n sioc i fi.

Oedd 'na dîm o 30 yn rhedeg hanner marathon Caerdydd i ni llynedd - y bobl 'ma sy' newydd golli rhywun i ganser y pancreas sy' ishe helpu.

Mae'n hyfryd ac mae fel teulu bach yn cefnogi'n gilydd.

Dyma pam nes i ddechrau'r elusen ac mae'n humbling iawn.

Mae'r arian wrth Amser Justin Time wedi galluogi'r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd i gyhoeddi eu hymchwil ar blatfform rhyngwladol fel bod timau eraill yn gallu dysgu o'r ymchwil.

Codi ymwybyddiaeth

Mae'n fis codi ymwybyddiaeth nawr a neges fi yw gweiddi. Dyw e ddim yn ganser secsi - mae gymaint o hwb wedi ei roi i fathau eraill o ganser. Mae ishe neud sŵn, mae ishe mwy o sylw.

Ond mae canser y pancreas dal i gael ei roi i'r neilltu achos bod y prognosis mor wael.

Mae'n glefyd mor aggressive ac mae'r symptomau mor niwlog. Erbyn i ti gael unrhyw symptom mae'n aml yn rhy hwyr ac mae'r ystadegau'n ofnadwy gyda un ym mhob pedwar yn marw o fewn mis o gael diagnosis.

Mae dal mor frawychus ag erioed. Dyw pethe ddim wedi symud ymlaen. Mae arian yn mynd tuag at arbrofion ond mae ishe mwy o sylw ac arian i symud pethau ymlaen yn fwy.

Hefyd o ddiddordeb