Ateb y Galw: Y gantores Shân Cothi
- Cyhoeddwyd
Y gantores a'r cyflwynydd Radio Cymru, Shân Cothi, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Catherine Ayers yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Delwedd o finne yn faban mewn hen bram yn y cae gwair adre yn Ffarmers a mrawd Eirian yn meddwl bydde fe'n syniad grêt i dipo fi mas o'r pram - llawn drygioni!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Starsky a Hutch.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rhedeg ffwl pelt a sgrechen mas o'r dosbarth gwnïo i lawr i gaeau chware Ysgol Llanbed yn wallgo' oherwydd bod rhywun yn chaso fi 'da choryn! (Shimpil braidd!)
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Cyn 'neud abseil i BBC Radio Cymru!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Wastad yn llwyddo i redeg yn hwyr a siarad gormod!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Adre... lle ma' popeth cyfforddus o nghwmpas, boed yn stabl neu'n gaeau. Llyn y Fan hefyd yn nefoedd ar y ddaear.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Wwwfff anodd achos ma' cyment ohonynt!
Fel arfer, y noson orau yw'r uchafbwynt mwyaf diweddar llawn adrenalin yn fy mywyd - o noson agoriadol Phantom of the Opera yn y West End i noson Gŵyl y Faenol 'da Bryn Terfel a Michael Ball i gyngerdd Mawreddog Pontrhydfendigaid dathlu 10 Amser Justin Time [elusen a gafodd ei sefydlu gan Shân er cof am ei gŵr, Justin Smith, a fu farw o ganser y pancreas ym mis Medi 2007], ac ar gefn fy ngheffyl Caio.
Ma' 'na gyment o atgofion campus llawn cyffro, fel ca'l y cyfle i raso ceffyl yng Ngŵyl Cheltenham, a'r dathlu i ddilyn, a choncro Kilimanjaro a 'styried bod bywyd mor fregus! O ac o'dd noson dathlu reido beic o Boston i Efrog Newydd ddim yn ddrwg chwaith!
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Hapus, drygionus a chyrliog!
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
The Wizard of Oz - ffantasi a realiti a lliw mewn harmoni. Ti'n gallu dysgu llawer wrth wylio'r ffilm 'na ac mae e'n ffilm berffeth i ymgolli ynddi. Neu The Shawshank Redemption achos golygfa cerddoriaeth godidog Mozart a'r ddeuawd hudolus o Briodas Figaro.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Freddie Mercury. S'dim ishe rheswm... mae ei enw e'n ddigon!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi o'dd brenhines Carnifal Neuadd Bro Fana Ffarmers yn 1977 - ma' sash piws 'da fi i brofi hynny!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bydde rhaid fi wasgu reid fach ar y ceffyl mewn cyn cal stecen fach a chwtsho lan 'da'n anwyliaid... 'sain lico meddwl am y peth i fod yn onest.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Anodd ateb! Dwli ar gymaint o bethe ond ar y funud, achos ni newydd recordio hi 'da Elin Fflur, Coflaid yr Angel / Angel, sef clasur Sarah McLachlan.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Mussels, stecen, mousse siocled.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Ceridwen y wrach.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Gillian Elisa