Saib i Ŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion yn siomi busnesau

  • Cyhoeddwyd
Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y trefnwyr fod yn rhaid i'r ŵyl "addasu" er mwyn iddi barhau

Mae busnesau yn Aberaeron yn dweud eu bod wedi eu siomi ar ôl clywed na fydd Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion yn dychwelyd i'r dref yn 2020.

Mae'r ŵyl flynyddol, sy'n cael ei chynnal ar ddydd Sul ym mis Gorffennaf, yn denu miloedd o ymwelwyr ar draws Prydain ynghŷd â chogyddion blaenllaw, ac mae'n cael ei threfnu gan bwyllgor o wirfoddolwyr.

Mewn datganiad ar wefan yr ŵyl, dolen allanol, mae'r trefnwyr yn dweud y "daeth y penderfyniad bod angen i'r ŵyl gymryd saib" oherwydd "cynnydd mewn poblogrwydd".

Mae yna "heriau" cynyddol o gynnal yr ŵyl gyda "iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth", meddai'r datganiad.

"Mae'r ymwelwyr yn cynyddu'n flynyddol ac yn sgil hynny yr her o reoli niferoedd, tagfeydd a pharcio," ychwanegodd.

'Lot o waith i wirfoddolwyr'

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans bod y cyhoeddiad yn "sioc" ond ei bod yn cydymdeimlo gyda'r trefnwyr.

"Mae fe yn siom. Mae pobl wedi cael sioc," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Elizabeth Evans: 'Falle daw cyfle eto'

"Pwyllgor bach sydd yn trefnu'r ŵyl, heb gael eu talu. Mae'n lot o waith.

"Gyda llwyddiant, mae rheolau bwyd yn cryfhau, a dyna fi'n credu sydd yn poeni'r trefnwyr.

"Falle daw cyfle eto i roi rhywbeth 'mlaen yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae'n rhaid talu teyrnged i'r trefnwyr. Roedd e mor boblogaidd."

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Fwyd Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r digwyddiad wedi denu cogyddion blaenllaw a miloedd o ymwelwyr

Dywedodd Martin Holland, sy'n rhedeg Tafarn y Cadwgan yn y dref, fod yr ŵyl ar gynnydd.

"Mae'n bwysig iawn i Aberaeron a de Sir Geredigion," meddai.

"Mae'n rhaid cyfri'r ymwelwyr yn y miloedd. Mae'n anodd symud 'ma ar y dydd Sul. Roedd hi'n sioc fawr i fi. Mae yna ffyrdd o ddod dros y problemau.

"Dwi'n meddwl bydd rhyw ddyfodol mewn siarad gydag asiantaethau eraill a defnyddio llefydd arall yn y dref efallai. Y broblem gyda gohirio, yw ailgydio wedyn.

"Mae e wedi dod yn sioc i'r gymuned yn gyffredinol."

Yn ôl y trefnwyr: "[E]r mwyn iddi barhau, rhaid i'r ŵyl addasu."