Disgwyl Gŵyl Fwyd Môr Ceredigion i ddenu miloedd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Ŵyl Fwyd Môr Bae Ceredigion ddenu dros 5,000 o ymwelwyr i Aberaeron dros y Sul.
Mae'r ŵyl yn gyfle i bobl yr ardal a thu hwnt gyfarfod â chynhyrchwyr lleol a blasu amrywiaeth o fwyd môr.
Yn ôl un o'r trefnwyr mae lleoliad ac arlwy'r ŵyl yn sicrhau bod ganddi'r potensial i gystadlu gyda digwyddiadau mwy yng Nghymru.
Llynedd, roedd yr ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ac mae'r trefnwyr yn dweud ei bod hi'n parhau i fynd o nerth i nerth.
Bydd nifer o gogyddion adnabyddus o Gymru yn dychwelyd eleni, gan gynnwys Gareth Ward o fwyty Ynyshir, ac ambell un arall yn dod i goginio i'r bobl leol am y tro cyntaf, fel Hywel Griffith a Tom Simmons.
Dywedodd Menna Heulyn, un o'r pwyllgor trefnu a chyd-berchennog bwyty'r Harbourmaster: "Mae'r ŵyl yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr lleol i gyrraedd marchnad newydd ac yn gyfle i bobl leol ddod i adnabod y cynhyrchwyr, nifer ohonynt sy'n byw llai na 80 milltir o Aberaeron.
"Mae e hefyd yn gyfle i bobl leol weld sut i baratoi pysgod a blasu cynnyrch lleol."
'Cystadlu gyda digwyddiadau mwy'
Mae'r ŵyl wedi tyfu'n aruthrol ers iddi gychwyn yn 1997 ac er ei bod yn dal i ddibynnu rhywfaint ar nawdd gan Lywodraeth Cymru, mae'r gefnogaeth honno wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Er hynny, dywedodd Mrs Heulyn fod yr ŵyl yn llwyddo i ariannu ei hun fwyfwy bob blwyddyn: "Ni'n denu cynhyrchwyr i brynu stondinau ac mae'r cogyddion yn gwerthu eu prydau i'r cyhoedd.
"Ni'n gorfod meddwl am ffyrdd i godi arian o flwyddyn i flwyddyn ac yn mynd ati i godi arian drwy gynnal gweithgareddau yn hytrach na chodi tâl i ddod i mewn.
"Ni'n gallu cystadlu gyda digwyddiadau mwy, mae gyda ni gymaint i'w gynnig gyda lleoliad mor arbennig ag Aberaeron."
Dathliadau Cymru-Ohio 2018
Daw'r ŵyl fwyd môr eleni wrth gwt dathliadau Cymru-Ohio 2018, gafodd eu cynnal diwedd Mehefin i nodi 100 mlynedd ers i drigolion o Geredigion fudo o Aberaeron i Ohio.
Roedd y dathliadau wedi cynnwys perfformiad Y Noson Ola' gan Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw ac ymweliad sgwner Vilma ag Aberaeron.
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o hanes y mudwyr i Ohio, bu'n hwb aruthrol i westai a bwytai'r ardal wrth i nifer o gyn-ddisgynyddion y mudwyr gwreiddiol heidio i Aberaeron ar gyfer y digwyddiadau.
Dywedodd Mrs Heulyn: "Bu'r dathliadau yn anhygoel, gan greu argraff ysgytwol ar yr ardal.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn eithriadol o bwysig, ac mae lle i feddwl yn ehangach a chreu gwyliau a digwyddiadau tebyg eto ac ymestyn tymor ymwelwyr tu hwnt i Orffennaf ac Awst."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2017