Rhybudd o lifogydd posib yn ne Cymru ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio fod posibilrwydd o lifogydd yn y de yn dilyn glaw trwm ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Mae'r rhybudd melyn am law trwm yn weithredol o 06:00 fore Mawrth nes 12:00 brynhawn Mercher, ac mae mewn grym ar gyfer y mwyafrif llethol o dde Cymru.
Dywed y rhybudd fod llifogydd yn debygol o effeithio cartrefi a busnesau, ac y gallai hefyd amharu ar drafnidiaeth a chyflenwadau trydan.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod pedwar rhybudd llifogydd yn y gorllewin, dolen allanol oherwydd y cyfuniad o dywydd garw a llanw uchel.
Mae'r rhybuddion hynny yn Niwgwl a Dale yn Sir Benfro, a Phentywyn a Chydweli yn Sir Gâr.