Ymchwilio i farwolaeth dyn oedd yn y ddalfa yn Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
Y DrenewyddFfynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei daro'n wael yng ngorsaf Y Drenewydd

Mae ymchwiliad wedi dechrau i farwolaeth dyn gafodd ei daro'n wael mewn gorsaf heddlu dros y penwythnos.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod dyn 20 oed wedi ei daro'n wael yn y ddalfa yn Y Drenewydd ar fore Sadwrn 23 Tachwedd.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd yr heddlu bod ymchwiliad llawn wedi dechrau, a bod y mater wedi ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Ychwanegodd datganiad yr heddlu bod swyddogion yn cydweithio'n llawn â'r ymchwiliad, a'u bod yn cydymdeimlo â theulu'r dyn.