Platfform gwleidyddol Hansh yn rhoi'r sbin yn y bin

  • Cyhoeddwyd

Gyda'r Etholiad Cyffredinol yn nesáu'n gyflym, mae gwleidyddiaeth o'n cwmpas ni ym mhob man.

Ond, â'r holl jargon o amgylch y lle, a'r pethau sy'n cael eu trafod mor gymhleth, sut mae sicrhau fod pobl yn deall beth sy'n mynd ymlaen? A sut mae sicrhau fod pobl ifanc yn rhan o'r sgwrs?

Dyma yw'r her sy'n wynebu Gwennan Campbell a Zahra Errami, sydd yn creu cynnwys Dim Sbin ar chwaer blatfform y sianel ar-lein S4C, Hansh, sef @HanshGwleid.

Cafodd Cymru Fyw air gyda Gwennan ynglŷn â'u hymgais i geisio egluro be' ydi be' a rhoi'r sbin yn y bin...

Ffynhonnell y llun, Dim Sbin
Disgrifiad o’r llun,

Gwennan Campbell a Zahra Errami ym Manceinion yn y Stafell Spin ar gyfer dadl Corbyn a Johnson

Mae'r ddwy ohonon ni'n newyddiadurwyr dan hyfforddiant gyda ITV Cymru. S4C dda'th lan â'r syniad bo' ni'n creu platfform arwahân, jest yn canolbwyntio ar gynnwys ar gyfer yr etholiad.

Social media a phethe digidol yw'r ffordd ymlaen, a dyna lle mae pobl ifanc yn fwy parod i ymateb i be' sy'n digwydd - yn enwedig ar Twitter ac Instagram.

Os yw e jest yn popo lan ar eich tudalen chi, mae e lot yn haws na mynd i ffeindio fe. Felly mae'n grêt rili bo' ni'n gallu apelio at bobl ifanc drwy fynd â'r wybodaeth atyn nhw, fel petai, yn lle bo' nhw'n gorfod dod aton ni.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan DIM SBIN ❌

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan DIM SBIN ❌

'Defnyddio'r platfforms maen nhw'n defnyddio'

Ar Instagram, ni'n defnyddio'r grid fel ffordd o gyflwyno gwybodaeth graffeg, mewn ffurf eitha' syml. Wedyn, ni 'di bo'n defnyddio Instagram Stories a fideos ar Twitter, a rhoi cyfle i bobl eraill i ymateb ar ffurf fideos a sylwade.

Ni 'di creu grŵp Dim Sbin, lle mae pobl ifanc 'di bod yn rhan ohono fe, a ma' nhw 'di bod yn ymateb o fewn y grŵp ac yn hala fideos mewn aton ni.

Ni'n trio bod yn eitha' gwahanol, trio bod lot fwy anffurfiol, defnyddio'r platfforms maen nhw'n defnyddio, a thrio cyflwyno gwleidyddiaeth mewn ffordd sy'n siwtio nhw ac yn apelio atyn nhw. Ni'n defnyddio iaith anffurfiol a chyfoes felly er mwyn apelio at bobl ifanc.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan DIM SBIN ❌

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan DIM SBIN ❌

Gwleidyddiaeth i bawb

Fi wastad wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth. O'n i'n teimlo mai fi oedd un o'r bobl brin 'na oedd rili yn politics geek, a phobl eraill yn meddwl ei fod e'n rili diflas!

Ond fi wastad wedi teimlo'n gryf bod dim digon yn cael ei wneud i bobl ifanc, a fod dim byd o'dd yn ei gyflwyno fe mewn ffordd syml o'dd yn apelio atyn nhw.

Fi a Zahra wedi bod yn gweithio'n grêt 'da'n gilydd achos do'dd Zahra ddim MOR cîn â fi ar wleidyddiaeth, ond fi'n credu bod hyn 'di bod yn allweddol er mwyn gallu creu cynnwys sy'n addas ac yn apelio at bawb. Ni'n gneud tîm bach da!

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan hanshgwleid

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan hanshgwleid

Bydde'r ddwy ohonon ni'n licio 'sa'r platfform yn parhau achos ni wedi dechre tyfu dilynwyr nawr a mae'r ymateb wedi bod yn grêt - yn well nag o'n i 'di ddisgwyl.

Ni wedi cael pobl yn dod lan ato' ni yn dweud bo' nhw'n joio'r cynnwys ac yn falch bod y platfform yn bodoli, rhai falle o'dd ddim rili'n becso am wleidyddiaeth a nawr wedi cymryd bach mwy o ddiddordeb.

Yn y bon, mae gwleidyddiaeth yn rhywbeth mae pobl acshyli yn ymddiddori ynddo fe, ond heb rili sylweddoli. Ma' gwleidyddiaeth yn dod mewn i bopeth.

Felly dwi'n teimlo fod hwn wedi bod yn gyfle grêt.

Hefyd o ddiddordeb: