'Yn groes i adroddiadau, dydy ein pentref ni ddim ar werth'

  • Cyhoeddwyd
Martin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Martin Jones yn dweud fod adroddiadau bod y pentref cyfan ar werth yn "gwbl anghywir"

Nid yw Aberllefenni, pentref ger Machynlleth, ar werth.

Dyna'r neges gan drigolion lleol sydd wedi eu cythruddo ar ôl i rai papurau newydd honni bod y pentref cyfan ar y farchnad.

Mae 16 o dai ar werth ar hyn o bryd, gydag oddeutu 40 o dai yn y pentref i gyd.

Yn ôl pobl leol, mae adrodd bod y pentref cyfan ar werth yn "gwbl anghywir".

Ffynhonnell y llun, MailOnline
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o drigolion Aberllefenni yn anhapus gyda phenawdau fel yr un yma

Un sydd wedi byw yn yr ardal ar hyd ei oes ydy Martin Jones, sy'n teimlo bod y pentref "yn llawer mwy na chasgliad o dai cerrig".

"Mae'r rhan fwyaf o'r pentref yn eiddo i'r perchnogion sy'n byw yn y tai," meddai. "Mae'r sylw yma yn y wasg yn gwbl anghywir.

"Maen nhw'n dweud bod y pentref cyfan ar werth, dim ond 16 sydd ar werth mewn gwirionedd.

"Nid yw'r rhan fwyaf o'r tai ar werth. Mae 'na gymuned fywiog yma, sy'n gymaint mwy na chasgliad o dai.

"Pan fydd y tai yn gwerthu yn y pen draw, bydd y gymuned fywiog yna yn dal i fodoli yma."

Heb werthu achos Brexit?

Mae hanes diwydiannol y gwaith llechi yn Aberllefenni yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif.

Mae'r 16 tŷ sy'n cael eu gwerthu yn rhan o'r hanes hwnnw am mai tai i weithwyr y chwarel oedd y rhain.

Yn 2015, fe gafodd yr eiddo i gyd eu rhoi ar y farchnad gan Waith Llechi Inigo Jones. Hyd yma, nid yw'r tai wedi eu gwerthu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tai sydd ar werth yn Aberllefenni yn costio £1.25m

Yn cael eu rhestru gyda'i gilydd am £1.25m, a hynny ers 2015, mae Dafydd Hardy yn rhwystredig gydag effeithiau Brexit ar y farchnad dai.

"Dydy'r listing heb werthu achos Brexit. Mae'r farchnad yn golygu bod pobl ddim efo gymaint o hyder i wneud penderfyniadau," meddai.

"Does dim dwywaith amdani, os mae rhywun yn mynd i fuddsoddi maen nhw isio gwneud yn siŵr bod y dyfodol yn mynd i fod yn un disglair.

"Felly, maen nhw'n mynd i aros nes bod popeth efo Brexit wedi ei sortio."