Cwyno am drenau'r gorllewin yn dilyn gwaith clirio

  • Cyhoeddwyd
Torri llystyfiant ar hyd y rheilfforddFfynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith yn cynnwys clirio coed sydd wedi marw neu wedi'u heintio ar hyd y rheilffordd

Mae teithwyr trenau'n dweud fod gwasanaethau yng ngorllewin Cymru yn cael eu trin fel rhai diangen.

Does dim trenau yn rhedeg rhwng Caerfyrddin ac Aberdaugleddau ar hyn o bryd am bum wythnos tan 20 Rhagfyr.

Mae Network Rail yn gweithio ar glirio planhigion ar hyd y rheilffordd.

Ond mae ymgyrchwyr yn dweud y dylai'r gwaith fod wedi ei wneud fesul tipyn, yn hytrach na chau'r llinell yn gyfan gwbl ac achosi cryn oedi.

'Rhwystredig'

Dywedodd Jamie Jeffries, sy'n rheolwr ar asiantaeth gofal yn Noc Penfro, fod symud gofalwyr o wahanol rannau o'r wlad yn anodd heb wasanaeth drenau.

"Mae'n rhaid i ni godi'r gofalwyr a mynd â nhw i'r gwasanaeth bws newydd ac yna mynd â'r gofalwr newydd yn ôl - mae'n golygu ein bod ni allan o'r swyddfa am dair awr a hanner ar y tro," meddai.

"Mae'n rhwystredig, mae yna waith y dylen ni ei wneud ond rydyn ni'n gwneud hyn yn lle."

Daw'r gwaith i glirio'r llystyfiant (vegetation), sy'n cynnwys coed wedi marw neu wedi'u heintio, yn dilyn digwyddiad ym mis Hydref pan darodd trên yn erbyn coeden yn ardal Abergwaun.

Cafodd neb ei anafu, ond fe gaeodd y ffordd am dros wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Erene Grieve wedi cwestiynu os oedd angen cau'r llinell gyfan i wneud y gwaith

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru eu bod yn cydweithio'n agos i sicrhau cyn lleied o amhariad â phosib.

Maen nhw'n dweud bod y gwaith clirio'n hanfodol ac maen nhw'n cynghori teithwyr i wirio eu teithiau cyn iddyn nhw deithio.

Ond dywedodd ymgyrchwyr rheilffyrdd nad oedd digon o rybudd ymlaen llaw am y gwaith a bod teithwyr yn Sir Benfro yn cael eu cosbi.

'Wedi effeithio yn ofnadwy'

Dywedodd is-gadeirydd Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Sir Benfro, Erene Grieve: "Ni chafwyd unrhyw rybudd. Daeth rhai ohonom fore dydd Llun a doedd 'na ddim trên.

"Mae pobl wedi cael eu heffeithio'n ofnadwy. Dydw i ddim yn siŵr os oedd cau'r llinell gyfan yn hollol angenrheidiol - mae fel petai'n ddiangen.

"Maen nhw'n cau'r llinell gyfan dim ond i wneud gwaith cyfyngedig. Gallai fod wedi'i drefnu'n well."

Mae Trafnidiaeth i Gymru yn mynnu bod y newidiadau wedi cael eu hysbysebu.

Ond gyda theithiau bysiau rhwng Caerfyrddin ac Aberdaugleddau yn cymryd hyd at ddwy awr - mae'n rhaid i deithwyr fod yn fwy trefnus i deithio ledled gorllewin Cymru yn y cyfnod cyn y Nadolig.